Bydd y gêm ar y Rec yfory yn gyfle i’r Prif Hyfforddwr newydd Wayne Pivac o Seland Newydd weld y garfan yn perfformio ar ôl bod yn paratoi yn galed ar gyfer y tymor newydd.

Caiff y pump chwaraewr sydd wedi ymuno â’r rhanbarth sef Michael Tagicakibau, Chris Hala’ufia, Harry Robinson, Rory Pitman a Phil Day chwarae am y tro cyntaf a bydd cyfle i’r cefnogwyr groesawu Peter Edwards, Steven Shingler a Regan King yn ôl.  Hefyd  bydd Scott Williams yn dychwelyd ar ôl gwella o’i anaf.

‘‘Mae’r ymarfer wedi mynd yn dda ac mae’r chwaraewyr wedi ymateb yn dda yn ystod y tair wythnos ddiwethaf ac yn edrych ymlaen i weithredu rhai o’r syniadau newydd.  Yr ydym yn edrych ymlaen i weld y cyd chwarae rhwng yr olwyr a’r blaenwyr ac i chwarae gêm gyflym,’’ meddai Pivac.

‘‘Mae cefnogwyr y Scarlets fel rhai Seland Newydd yn caru’r gêm ac am i’r tîm wneud yn dda a gobeithio y medraf gyflawni ei disgwyliadau yn ystod y tymor,’’ ychwanegodd Pivac.

Tîm y Scarlets am yr hanner cyntaf:

15 Jordan Williams, 14 Kristian Phillips, 13 Steffan Hughes, 12 Adam Warren, 11 Kyle Evans, 10 Steven Shingler, 9 Rhodri Williams, 1 Peter Edwards, 2 Emyr Phillips, 3 Rhodri Jones, 4 Phil Day, 5 Johan Snyman, 6 Rob McCusker, 7 Sion Bennett a 8 Chris Hala’ufia.

Tîm y Scarlets yn yr ail hanner:

15 Gareth Owen, 14 Michael Tagicakibau, 13 Regan King, 12 Scott Williams, 11 Harry Robinson, 10 Steven Shingler, 9 Aled Davies, 1 Wyn Jones, 2 Kirby Myhill, 3 Jacobie Adriaanse, 4 Lewis Rawlins, 5 Richard Kelly, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies a 8 Rory Pitman.

Eilyddion: Gareth Davies, Phil John, Darran Harris a Craig Price.