Mae’r cefnwr Liam Williams wedi pasio prawf ffitrwydd hwyr a fydd yn ei alluogi i ddechrau yn erbyn Treviso yfory.

Fe gollodd Williams y gêm ddydd Sadwrn diwethaf oherwydd anaf.  Mae’r canolwr Regan King yn colli’r gêm oherwydd anaf i’w goes ac mae’r Capten a’r bachwr Ken Owens yn dioddef o anaf i’w wddf.

Mae cyn brop tîm Cymru dan 20 oed Rob Evans yn dechrau gyda Phil John ar y fainc.  Emyr Phillips fydd y bachwr, ac yn cynrychioli’r tîm am y canfed tro.  Bydd Michael Tagicakibau yn dychwelyd ar ôl anaf ar un asgell gyda Harry Robinson ar y llall.  Gareth Owen fydd yn y canol gyda’r capten Scott Williams.

Bydd y Scarlets yn edrych am fuddugoliaeth adref ar ôl cael gêm gyfartal a phwynt bonws yn erbyn Ulster yn y rownd gyntaf.  Mae’r Scarlets yn ddiguro adref ers y gêm yn erbyn yr Harlequins ar 19fed o Ionawr.

Fe wnaeth y Scarlets y dwbwl dros Treviso yn y Pro 12 y llynedd.  Bydd y gic gyntaf am 6 yr hwyr.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (Capten), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Rob Evans, Emyr Phillips, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay a Rory Pitman.

Eilyddion – Darran Harris, Phil John, Peter Edwards, Richard Kelly, Rob McCusker, Aled Davies, Steven Shingler a Adam Warren.