Gleision Caerdydd 9–26 Ulster

Roedd Ulster rhy gryf i’r Gleision ar Barc yr Arfau nos Wener wrth i’r Gwyddelod ennill y gêm Guinness Pro12 yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Doedd dim llawer ynddi ar yr egwyl ond fe sgoriodd yr ymwelwyr ddau gais yn yr ail gyfnod wrth ennill y gêm er gwaethaf ymdrech lew’r Gleision.

Hanner Cyntaf

Er na chafwyd ceisiau, roedd y deugain munud agoriadol yn ddigon diddorol, yn enwedig felly’r hanner awr cyntaf.

Ciciodd Paddy Jackson Ulster ar y blaen wedi wyth munud ond cafodd y Gleision gyfnod da wedi hynny wrth i’w hamddiffyn awchus wneud pethau’n anghyfforddus i’r Gwyddelod.

Roedd y tîm cartref yn haeddianol ar y blaen wedi hanner awr o chwarae diolch i ddwy gic gosb o droed Patchell, ond gorffennodd yr hanner cyntaf braidd yn flêr.

Ciciwyd pedair cic gosb yn y deg munud olaf, tair o’r rheiny i Jackson ac Ulster wrth i’r Gwyddelod fynd i mewn ar yr egwyl dri phwynt ar y blaen, 9-12 y sgôr.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner gyda chyfnod hir o bwyso gan Ulster ac fe ddaeth y cais agoriadol wedi deuddeg munud wrth i’r clo, Dan Tuohy, ganfod bwlch enfawr yn amddiffyn y Gleision i groesi o dan y pyst, 9-19 wedi trosiad Jackson.

Cafwyd ymateb da gan y Gleision a bu bron iddynt daro nôl bron yn syth ond tynnodd yr asgellwr, Richard Smith, ei lygad oddi ar y bêl ar yr eiliad dyngedfennol gyda’r llinell gais ger llaw.

Fe geisiodd y Gleision eu gorau glas yn yr hanner awr olaf ac fe gawsant ddigon o’r bêl ond roedd amddiffyn Ulster rhy gryf a rhy drefnus i’r Cymry.

Ac i rwbio’r halen yn y briw fe ychwanegodd eilydd faswr yr ymwelwyr, Ian Humphreys, drosgais bum munud o’r diwedd ar ôl rhyng-gipio’r bêl ar linell 22 medr y Gleision, 9-26 y sgôr terfynol.

Mae’r Gleision yn aros yn wythfed yn nhabl y Guinness Pro12 er gwaethaf y canlyniad.

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 22’, 28’, 36’

.

Ulster

Ceisiau: Dan Tuohy 52’, Ian Humphreys 75’

Trosiadau: Paddy Jackson 52’, Ian Humphreys 76’

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 8’, 30’, 34’, 40’