Connacht 24–24 Gleision Caerdydd

Rhannodd y Gleision y pwyntiau gyda Connacht ar Faes Chwarae Galway yn y Guineess Pro12 nos Wener diolch i gais hwyr Scott Andrews.

Sicrhaodd cais hwyr y prop a throsiad Rhys Patchell gêm gyfartal, 24 pwynt yr un i’r Cymry.

Er i Craig Ronaldson gicio’r tîm cartref ar y blaen, Y Gleision ac Adam Thomas a gafodd gais cyntaf y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Ymatebodd Connacht gyda chais i Robbie Henshaw wrth i’r hanner cyntaf orffen yn gyfartal, ddeg pwynt yr un.

Cafodd y Gwyddelod ddechrau perffaith i’r ail hanner ac roedd hi’n ymddangos fod y gêm allan o afael y Gleision yn dilyn cais yr un i Kieran Marmion a Nathan White, a dau drosiad gan Ronaldson, 24-10 y sgôr gyda hanner awr i fynd.

Ond brwydro nôl a wnaeth y Cymry ac roeddynt yn ôl yn y gêm pan blymiodd Macauley Cook o dan y pyst ddeuddeg munud o’r diwedd.

Yna, ddau funud cyn y chwiban olaf fe ymestynnodd yr eilydd brop, Andrews, gan lwyddo i dirio’r bêl wrth fôn un o’r pyst. Wedi golwg gan y dyfarnwr fideo fe ganiatawyd y cais a sicrhaodd trosiad syml Patchell gêm gyfartal i’r Gleision.

Mae’r ddau bwynt yn eu codi i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12 am y tro.

.

Connacht

Ceisiau: Robbie Henshaw 31’, Kieran Marmion 42’, Nathan White 46’

Trosiadau: Craig Ronaldson 32’, 43’, 47’

Cic Gosb: Craig Ronaldson 6’

.

Gleision

Ceisiau: Adam Thomas 19’, Macauley Cook 69’, Scott Andrews 78’

Trosiadau: Rhys Patchell 20’, 70’, 78’

Cic Gosb: Rhys Patchell 36’