Gleision Caerdydd 37–14 Grenoble

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth gyfforddus yn eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth newydd, Cwpan Sialens Ewrop, brynhawn Sadwrn.

Y gystadleuaeth newydd hon yw ail haen rygbi Ewropeaidd y tymor hwn, ac mae’n cymryd lle’r Cwpan Amlin – cystadleuaeth yr enillodd y Gleision yn 2010.

Grenoble oedd yr ymwelwyr i Barc yr Arfau yng ngêm gyntaf grŵp 1 ond roedd y tîm cartref yn rhy gryf i’r Ffrancwyr, wrth iddynt sgorio pum cais mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Dechreuodd Rhys Patchell yn safle’r cefnwr ond wnaeth hynny ddim ei atal rhag bod yn rhan o’r gêm gyda chais wedi dim ond deg munud.

Ychwanegodd y mewnwr, Lloyd Williams, ail yn fuan wedyn a dim ond dwy gic gosb o droed James Hart oedd yn cadw’r ymwelwyr yn y gêm ar hanner amser, 15-6 y sgôr wedi deugain munud.

Ychwanegodd capten Cymru, Sam Warburton, drydydd cais y Gleision i sicrhau’r fuddugoliaeth yn gynnar yn yr ail hanner, ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel hefyd toc cyn yr awr wedi i’r asgellwr, Richard Smith, groesi am bedwerydd.

Tiriodd Josh Turbull y pumed saith munud cyn y diwedd cyn i Louis Marrou groesi am gais cysur hwyr i’r ymwelwyr. 37-14 y sgôr terfynol a’r Gleision ar frig grŵp 1 wedi’r gêm gyntaf.

.

Gleision

Ceisiau: Rhys Patchell 10’, Lloyd Williams 13’, Sam Warburton 42’, Richard Smith 58’, Josh Turnbull 73’

Trosiadau: Rhys Patchell 10’, 42’, 73′

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 39’, 55’

.

Grenoble

Cais: Louis Marrou 77’

Ciciau Cosb: James Hart 26’, 35’, 50’