Mae’r Gweilch wedi cadarnhau y bydd Lloyd Peers allan am bedwar mis ar ôl cael llawdriniaeth i’w bigwrn.

Cafodd Peers yr anaf i gymalau yn ei bigwrn wrth chwarae yn erbyn Racing Metro yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop bythefnos yn ôl.

Fe fethodd yr ail gêm yn erbyn y tîm o Baris, ac fe gadarnhaodd y rhanbarth heddiw nad ydyn nhw’n disgwyl gweld y clo ar y cae eto tan o leiaf diwedd y tymor.

“Fe wnaethon ni’r penderfyniad mai cael llawdriniaeth oedd y peth gorau i Lloyd o ystyried natur ei anaf,” meddai Rheolwr Perfformiad Meddygol y Gweilch Chris Towers.

“Mae wedi cael y llawdriniaeth ac fe aeth hynny’n dda, ac mae disgwyl iddo fod allan am tua phedwar mis tra ei fod e’n gwella o’r anaf.”