Stephen Jones
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi heddiw y bydd eu cyn-faswr Stephen Jones yn ailymuno â’r rhanbarth fel hyfforddwr olwyr ar ddiwedd y tymor.

Fe chwaraeodd Stephen Jones dros 300 o weithiau i Lanelli a’r Scarlets dros gyfnod o 14 mlynedd cyn symud i Wasps yn 2011, yn gyntaf fel chwaraewr ac yna fel hyfforddwr.

Fe dreuliodd y maswr gyfnod yn chwarae i Clermont yn Ffrainc hefyd yn ystod ei yrfa, ac fe enillodd dros 100 o gapiau i Gymru.

Bydd croeso mawr yn Llanelli i weld y cyn-chwaraewr yn dychwelyd i’r rhanbarth ble y gwnaeth ei enw.

Ac mae gan Stephen Jones brosiectau eraill ar waith yn yr ardal eisoes, gyda bwyty gourmet Sosban a bar tapas B9-10 yn Llanelli y mae’n ei redeg gydag un arall o gyn-chwaraewyr y Scarlets, Dwayne Peel.

“Fi’n edrych ’mlan i ddychwelyd i orllewin Cymru a nôl i’r Scarlets ble wnaeth popeth ddechrau i fi,” meddai Stephen Jones.

“Fi’n ddiolchgar i Dai [Young] a phawb yn Wasps am roi’r cyfle i fi ddechrau fy ngyrfa hyfforddi a fi’n edrych ’mlan at yr heriau sydd dal o’n blaenau ni yn Uwch Gynghrair Aviva ac Ewrop y tymor hwn.

“Wedyn fe fyddai’n edrych ‘mlan at ddychwelyd i orllewin Cymru a datblygu mwy gyda’r rhanbarth fi’n galw’n gartref.”