Scarlets 34–14 Connacht

Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth a phwynt bonws wrth i Connacht ymweld â Llanelli yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Sgoriodd y tîm cartref dri chais mewn deg munud cyffrous yn yr hanner cyntaf ac er mai siomedig oedd gweddill y gêm ar y cyfan roedd cais ail hanner James Davies yn ddigoni sicrhau’r pwyntiau i gyd.

Ciciodd Jack Carty’r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar ac er i John Barclay dreulio deg munud yn y gell gosb wedi hynny fe darodd y Scarlets yn ôl gyda chwe phwynt o droed Steven Shingler.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi 23 munud, Michael Tagicakibau’n croesi yn y gornel chwith yn dilyn gwaith caled y blaenwyr a dwylo da Regan King.

Dilynodd yr ail gais yn fuan wedyn a chais tebyg iawn i’r cyntaf ydoedd. Y blaenwyr wnaeth y gwaith caled unwaith eto cyn i bas fedrus King ryddhau’r asgellwr dde, Harry Robinson, y tro hwn i groesi yn y gornel.

Aeth y gêm o afael Connacht yn fuan wedyn wrth i Jordan Williams groesi am drydydd cais y tîm cartref ar ôl rhyng-gipio’r bêl ar ei linell bum medr ei hun.

Gorffennodd Connacht yr hanner gyda chic gosb arall ond roedd gan y Scarlets fantais iach wedi deugain munud, 25-6 y sgôr.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel wedi deg munud o’r ail hanner, Davies yn tirio wedi sgarmes symudol o lein bum medr.

Digon diflas oedd yr hanner awr olaf er i Niyi Adeolokun groesi am gais cysur hwyr i’r Gwyddelod. Rhy ychydig rhy hwyr oedd hynny, 34-14 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets dros Connacht i’r chweched safle holl bwysig yn nhabl y Pro12.
.
Scarlets
Ceisiau
: Michael Tagicakibau 23’, Harry Robinson 27’, Jordan Williams 33’, James Williams 50’
Trosiadau: Steven Shingler 28’, 34’, 51’
Ciciau Cosb: Steven Shingler 13’, 17’
Cerdyn Melyn: John Barclay 8’
.
Connacht
Cais:
Niyi Adeolokun 72’
Ciciau Cosb: Jack Carty 4’, 39’ 47’
Cerdyn Melyn: John Muldoon 54’