Alun Wyn Jones - un o'r pedwar
Mae pedwar o chwaraewyr rhyngwladol wedi arwyddo cytundebau deuol gyda’r rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru.

Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Scott Williams a Gareth Anscombe yw’r rhai diweddara’ i arwyddo’r cytundebau newydd, sy’n golygu bod gan 12 o chwaraewyr gytundebau deuol bellach.

Maen nhw’n ymuno â rhestr sydd eisoes yn cynnwys Rhys Webb, Sam Warburton, Dan Lydiate, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Tyler Morgan a Hallam Amos.

‘Carreg filltir’

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland fod y pedwar wedi “profi eu gallu”.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis fod y cytundebau’n “garreg filltir” i rygbi yng Nghymru.