Y bachgen lleol Kristian Phillips o Gastell-Nedd yw’r chwaraewr diweddaraf i gael ei arwyddo gan glwb rygbi’r Gweilch.

Fe fydd yr asgellwr 24 oed yn ymuno a’r tîm o’r Scarlets ar gytundeb blwyddyn o hyd.

Mae’n dychwelyd i chwarae gyda’r Gweilch ar ôl cychwyn ei yrfa yno fel aelod o’r cwrs datblygu pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Yr asgellwr oedd y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli’r Gweilch mewn gêm gystadleuol yn erbyn Connacht 2008, yn 17 mlwydd oed.

“Mae’n dda bod yn ôl. Rwy’n nabod y lle, ond mae’r awyrgylch yn wahanol i’r hyn ydoedd pan oeddwn i yma ddiwethaf, yn nhermau diwylliant a phopeth.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r tymor hwn a, gobeithio, chwarae mewn gemau  cystadleuol.”