
Gareth Thomas
Mae Gareth ‘Alfie’ Thomas wedi penderfynu gohirio ei gynlluniau i ymddeol o chwarae ar ôl arwyddo cytundeb blwyddyn gyda’r Croesgadwyr.
Mae cyn gapten rygbi undeb Cymru, sy’n 37 oed y mis nesa, yn ei ail dymor gyda’r clwb o Wrecsam ac fe fydd nawr yn parhau i chwarae tan ddiwedd tymor 2012.
“Dw i wrth fy modd i arwyddo am flwyddyn arall gyda’r Crusaders. Dim ond fy ail dymor yn chwarae rygbi’r gynghrair yw hwn a nawr dw i’n teimlo fy mod i’n dysgu a mwynhau’r gêm,” meddai.
“Dw i’n teimlo y byddai rhoi’r gorau i’r broses yna nawr yn siom. Felly roedd arwyddo am dymor arall yn benderfyniad hawdd i’w wneud.
“Mae’r Crusaders yn dîm uchelgeisiol a dw i’n hapus iawn i fod yn rhan ohono a gwneud fy rhan i helpu’r clwb.”
Mae hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harris, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud mai Gareth Thomas yw un o chwaraewyr gorau’r clwb y tymor hwn.