
Liam Davies nôl gyda'r Scarlets
Mae’r Scarlets wedi arwyddo eu cyn fewnwr, Liam Davies ar gytundeb fydd yn ei gadw ar Barc y Scarlets hyd nes ddiwedd y tymor.
Cafodd Davies, sydd o Langennech yn wreiddiol, ei feithrin trwy system academi’r Scarlets a dywed ei fod wrth ei fodd i gael dychwelyd i’r rhanbarth.
Fe adawodd y mewnwr y Scarlets ym Mehefin 2008 er mwyn ymuno â’r clwb Ffrengig, Brieve.
Daeth yn ôl i Gymru am gyfnod byr gyda’r Gweilch cyn symud ar fenthyg i glwb Cymry Llundain. Symudodd i Dax yn Ffrainc yng Ngorffennaf 2010 ond cytunwyd i ddiddymu ei gytundeb yno’n fuan.
“Mae’n wych cael cyfle i symud adref” meddai Davies.
“Rwy wedi dysgu llawer wrth chwarae yn Ffrainc ond nes i neidio ar y cyfle i fod nôl mewn crys Scarlets ac yn chwarae fy rygbi adref yng Nghymru.”
“Mae ‘na chwaraewyr ifanc addawol dros ben yn chwarae i’r Scarlets ar hyn o bryd ac mae’n dda i fod nôl gyda’r bois o’r rhanbarth lle dechreuais i, fel Josh Turnbull, Jon Davies, Scott Williams, Ken Owens ac eraill.”
“Fe fyddai’n rhoi popeth i’r cyfle yma a gobeithio byddai’n gallu rhannu rhywfaint o’m profiad ehangach gyda’r grŵp talentog o fewnwyr sydd gyda’r Scarlets – Gareth Davies, Rhodri Williams ac Aled Davies.”
Rhagor o opsiynau
Mae gan y Scarlets broblemau yn safle’r mewnwr oherwydd anafiadau diweddar i Tavis Knoyle ac Aled Davies, ac roedd yr hyfforddwr, Nigel Davies yn awyddus i ychwanegu at ei opsiynau.
“Mae Gareth Davies a Rhodri Williams yn ddau fewnwr ifanc da iawn sy’n cystadlu am y crys gyda’r Scarlets ar hyn o bryd” meddai’r hyfforddwr.
“Er hynny rydym yn gwybod fod Tavis wedi’i anafu a bod gemau rhyngwladol ar y gorwel felly roedd angen rhagor o opsiynau yn y safle.”
“Mae gallu dod a rhywun o safon, cefndir a phrofiad Liam o gemau mawr i mewn i’r garfan ar amser allweddol o’r tymor yn beth cadarnhaol iawn i ni.”
“Mae’n hyfforddi gyda ni eisoes ac wedi dangos pa mor gyflym mae’n gallu ffitio i’r awyrgylch, ac mae’n amlwg