
Nigel Davies
Mae hyfforddwr y Sgarlets, Nigel Davies wedi canmol y maswr Stephen Jones am y ffordd y mae wedi ymateb am gael ei adael allan o garfan hyfforddi Cymru ym Mhencampwriaeth y chwe gwlad.
Cafodd y chwaraewr 34 oed ei adael allan o dîm Cymru pan gollodd y Crysau Cochion yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm yn y gêm yn dilyn Cwpan y Byd.
Arweiniodd Stephen Jones ei ranbarth i fuddugoliaeth dros y penwythnos yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken yn erbyn Castres.
‘‘Roedd yn wych drwy’r wythnos ac fe orffennodd hynny gyda gêm rhagorol (yn erbyn Castres). Felly mae hyn yn dweud llawer iawn am ei gymeriad,’’ meddai Davies.
Roedd Rhys Priestland, sef dewis cyntaf Cymru i wisgo’r crys rhif 10, yn chwarae yn safle’r cefnwr yn y gêm lle ennillodd y Scarlets i sicrhau lle yn y rowndiau terfynol yng nghystadleuaeth Cwpan Amlin.
Bydd Priestland yn cystadlu yn erbyn James Hook o Perpignan am safle’r maswr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, lle mai Dan Biggar a ddaeth i fewn i’r garfan yn erbyn Awstralia, wedi cael ei adael allan yn gyfangwbl o’r garfan am ymgyrch cystadleuaeth Chwe Gwlad Cymru.
Mae Stephen Jones wedi chwarae 104 o weithiau dros Gymru gan gynnwys 50 ymddangosiad mewn 12 ymgyrch chwe glwad ers ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth hon yn y flwyddyn 2000.
‘‘Roedd yn amlwg yr oedd hon yn wythnos anodd iddo. Ond gofynnwyd iddo arwain y tîm, ac fe wnaeth hynny yn rhagorol. Cymerodd y cyfrifoldeb mewn wythnos a oedd yn anodd iddo yn bersonol,’’ dywedodd Davies.