Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Blair yn dychwelyd i’r Gleision

Ionawr 26, 2012 16:58, Diweddarwyd Ionawr 27, 2012 10:12


Ben Blair
Mae Ben Blair ar fin dychwelyd i Gleision Caerdydd ar ôl 15 mis oherwydd anaf i’w ben-glin, ar gyfer eu gêm yn erbyn Caerloyw yng nghystadleuaeth Cwpan LV dydd Sadwrn yma.

Cafodd Blair anaf i’w ben-glin yn erbyn Castres yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken ym mis Hydref 2010.

‘‘Mae wedi bod yn gyfnod hynod o rwystredig i mi ar, ac oddi ar, y cae yn ystod y 15 mis diwethaf.  Mae wedi bod yn galed yn gorfforol ac yn feddyliol i gyrraedd y fan lle’r wyf yn gallu chwarae eto, felly rwy’n edrych ymlaen i gael gêm o’r diwedd,’’ meddai Blair.

Nid dim ond chwaraewyr sydd am estyn croeso cynnes yn nôl i Blair.

‘‘Mae Ben yn dod â llawer o brofiad ac mae e wedi bod yn chwaraewr cadarn i ni ers iddo gyrraedd yma, felly mae’n braf ei weld yn dychwelyd yma,’’ meddai Gareth Baber sef hyfforddwr yr olwyr i’r Gleision.

‘‘Yn amlwg mae ef wedi bod allan am gyfnod hir gyda’i anaf i’w ben-glin, ond rydym yn obeithiol y gwelwn ef yn cicio’n dda ac yn sefydlu ei hun ac yn gadarn o dan peli uchel,’’ ychwanegodd.

‘‘Mae wedi bod yn ymarfer yn galed wrtho’i hunan ac wedi perfformio’n dda gyda’r tîm wrth ymarfer,’’ dywedodd Baber.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.