
Jason Tovey
Mae adroddiadau yn y wasg heddiw sy’n awgrymu y gallai Jason Tovey adael y Dreigiau ar ddiwedd y tymor ac ymuno gyda Gleision Caerdydd.
Yn ôl y Western Mail a’r South Wales Argus mae’r maswr ar fin arwyddo cytundeb tair blynedd gyda rhanbarth y brifddinas.
Mae’n wir bod ei gytundeb gyda’r Dreigiau yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac mae’r Gleision wedi cael trafferth i lenwi’r bwlch yn safle’r maswr ers i Nicky Robinson adael y rhanbarth yn 2009.
Methiant llwyr oedd olynydd gwreiddiol Robinson, Sam Norton-Knight o Awstralia.
Ceri Sweeney a Dan Parks sydd wedi rhannu’r cyfrifoldeb eleni, ond y gred yw nad oes yr un o’r ddau gyda’r gallu creadigol i gael y gorau o gefnwyr effeithiol fel Jamie Robinson, Casey Lualala ac Alex Cuthbert.
Mae Tovey yn chwaraewr tebyg iawn i Nicky Robinson – yn giciwr troed chwith ac yn faswr creadigol.
Mewn 88 o gemau i’r Dreigiau mae wedi sgorio 535 o bwyntiau.
Mae wedi bod ar gyrion y tîm rhyngwladol ar sawl achlysur, ond wedi methu â sefydlu ei hun yn y garfan hyd yn hyn. Byddai profi ei allu i gael y gorau o rywun fel Jamie Roberts gyda’r Gleision yn siŵr o’i helpu i gael ei gynnwys yng ngharfan Warren Gatland.