Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Gatland yn gohirio cyhoeddi’r tîm i wynebu Iwerddon

Ionawr 30, 2012 11:19


Warren Gatland
Bydd Warren Gatland ddim yn cyhoeddi’r tîm i chwarae yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad tan Ddydd Gwener.

Yn dilyn llu o anafiadau, mae Gatland yn wynebu her anferth. Mae anafiadau ac ymddeoliad Shane Williams wedi dwyn traean o’r tîm a fu’n cystadlu yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan y Byd.

Bydd y tîm yn cael ei gyhoeddi am ganol dydd, ar ddydd Gwener y 3 Chwefror.

Bydd Cymru yn croesi’r môr er mwyn chwarae Iwerddon yn Stadiwm Aviva ar ddydd Sul, 5 Chwefror. Mae’r gêm yn dechrau am 3 o’r gloch.

Anafiadau tîm Cymru – y rhestr yn tyfu

Ni fydd Gethin Jenkins ar gael am bump wythnos, wedi iddo anafu ei ben-glin. O achos ei ben-glin hefyd, mae’n annhebyg y bydd Jamie Roberts ar gael ar gyfer y gêm. Mae Dan Lydiate yn dioddef gydag anaf i’w ffêr.

Mae Alun Wyn Jones yn gwella ar ôl triniaeth i fys mawr ei droed. Gwella wedi triniaeth hefyd yw hanes  clo arall y tîm, Luke Charteris.

Mae Iwerddon hefyd yn wynebu her, gyda’r  capten byd enwog Brian O’ Driscoll wedi ei anafu.

Stephen Jones – yma o hyd!

Cafodd  Stephen Jones alwad hwyr i’r garfan, oherwydd anaf i Rhys Priestland, maswr newydd Cymru. Aeth Jones ddim gyda’r garfan wreiddiol o 35 i’r lleoliad hyfforddi yn Gdansk, Gwlad Pwyl. Ond mae’n bosib caiff y cyfle i ychwanegu i’w 104 o gapiau i Gymru.

Mae disgwyl i James Hook ddechrau’r gêm fel maswr, gyda Stephen Jones ar y fainc.

Yr wythnos hon, mae’r tîm wedi ymgartrefu yn y pencadlys hyfforddi ym Mro Morgannwg.

Gemau eraill

Bydd yr Eidal yn mynd i Baris ar gyfer gêm cyntaf y bencampwriaeth, ar bnawn Sadwrn.

A bydd yr Alban yn croesawu’r ‘auld enemy’ i Gaeredin, gyda’r gêm yn dechrau am 5 o’r gloch.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.