
Bydd Cross Keys yn croesawu’r Cornish Pirates i Barc Pandy, ar gyfer rownd cynderfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon.
Bydd y gemau yn cael eu cynnal rhwng y 6-8 Ebrill, gyda’r rownd derfynol i ddilyn ar Ebrill 28. Dyma fydd y tro cyntaf i’r rownd derfynol gael ei chwarae yn Iwerddon.
Leinster A neu Munster A fydd yn wynebu enillwyr yr ornest rhwng Cross Keys a’r dynion o Gernyw.
Cais cyntaf
Dyma’r tro cyntaf i Cross Keys gystadlu yn y Cwpan.
Ond er fod Cornish Pirates wedi ennill y Cwpan cyntaf yn 2010, bydd dynion Gwent yn hyderus, yn dilyn buddugoliaeth swmpus dros Llanelli yn y rownd gynt.
32-8 oedd y sgôr yn y gem honno, a bydd Cross Keys yn awchu am y cyfle i ddangos eu doniau eto, er mwyn sicrhau taith i Iwerddon ar gyfer y rownd derfynol.