Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Shane am ymddeol yn llwyr’

Chwefror 1, 2012 07:30, Diweddarwyd am 07:30


Mae’r BBC yn dweud y bydd cyn-seren Cymru, Shane Williams, yn rhoi’r gorau i rygbi’n llwyr ar ddiwedd y tymor hwn.

Er fod ganddo flwyddyn arall  o gytundeb gyda’r Gweilch yn Abertawe, y disgwyl yw y bydd yn mynd cyn hynny ac  mae wedi mynegi diddordeb o’r blaen mewn troi at hyfforddi.

Fe fydd yr asgellwr o Ddyffryn Aman yn rhan o dîm sylwebu’r BBC yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar ôl iddo ymddeol o rygbi rhyngwladol yn yr hydref y llynedd.

Os yw’r newyddion yn wir, fe fydd yn ddiwedd ar un o yrfaoedd mwya’ disglair y cyfnod diweddar, gan gynnwys torri record ceisiau Cymru a chael ei ddewis yn chwaraewr rhyngwladol y flwyddyn yn 2008.

Cryfder mawr y chwaraewr 5’7” oedd ochrgamu a gwibio mewn sefyllfaoedd tynn ac roedd ar ei orau pan oedd y chwarae’n agored a rhydd, arddull Cymru ym mlynyddoedd y Gamp Lawn yn y 2000oedd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.