Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Gatland yn gohirio enwi’r tîm eto

Chwefror 8, 2012 10:33, Diweddarwyd am 13:31


Warren Gatland
Roedd disgwyl i Warren Gatland enwi’r tîm i groesawu’r Alban  heddiw ond mae wedi penderfynu gohirio’r cyhoeddiad tan yfory.

Daw’r penderfyniad ar ol i Bradley Davies  glywed ddoe y bydd yn wynebu panel disgyblu heddiw, yn dilyn ei dacl ar Donnacha Ryan yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.

Mae disgwyl i Bradley Davies gael ei wahardd rhag chwarae am rai wythnosau o leiaf.

“Mae’n rhaid i ni baratoi am y gwaethaf,” dywedodd Gatland.

Ergyd

Mae Dan Lydiate a Gethin Jenkins wedi dechrau ymarfer gyda’r tîm yn gynharach yn yr wythnos, wedi i’r ddau golli’r gêm yn erbyn Iwerddon.

Mae disgwyl hefyd bydd y capten Sam Warburton wedi gwella ar ôl cael anaf i’w goes yn ystod y gêm yn Nulyn.

Mae’r bachwr Matthew Rees dal yn dioddef o anaf i groth ei goes.

Ac mi fydd colli Bradley Davies yn ergyd drom i Gatland, o ystyried cyflwr ei ddau glo arall o Gwpan y Byd llynedd.

Mae Alun Wyn Jones heb wella o’r anaf i fys ei droed, a Luke Charteris wedi anafu ei arddwrn.

Mae Alex Cuthbert, yr asgellwr newydd, yn gwella ar ôl anaf i’w ben.

Gohirio eto

Cafodd cyhoeddiad tîm rygbi Cymru i wynebu Iwerddon ei ohirio tan Ddydd Gwener wythnos diwethaf, a hynny oherwydd nifer o anafiadau.

Bydd Cymru yn chwarae’r Alban, yn Stadiwm y Mileniwm, am 3 o’r gloch Ddydd Sul.

Bydd Ffrainc yn croesawu’r Gwyddelod i Baris, a Lloegr yn hedfan i Rufain i wynebu’r Eidalwyr.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eirion Rhys , Chwefror 8, 2012 1:22 pm

‘Mae’r bachwr Matthew Rees dal yn dioddef o anaf i’w groth.’!!!! Oes rhywbeth am Rees y dylen ni fod yn ei wybod? Oni ddylai fod yng ngharfan Tim Merched Cymru? Mae’ch camgymeriadau lu chi’n fwy doniol na rhai’r ‘Grauniad’ gynt! Ond y tristwch yw bod ein harian ni’r trethdalwyr yn talu am y rwtsh ‘ma! Oes rhywun yn prawf-ddarllen eich erthyglau chi o gwbl?

§| Nodi camddefnydd

Owain Schiavone , Chwefror 8, 2012 1:31 pm

calf = croth y goes (yn ôl fy ngeiriadur i beth bynnag)

Diolch,
Owain Schiavone (Golwg360)

§| Nodi camddefnydd

Eirion Rhys , Chwefror 9, 2012 1:04 pm

croth = womb (yn ôl fy ngeiriadur i beth bynnag)

Diolch

Dw i’n gweld nawr eich bod wedi cywiro’r gwall uchod o ‘anaf i’w groth’ i ‘anaf i groth ei goes’ ond heb ymddiheuro amdano na diolch i fi am dynnu’ch sylw ato yn lle cynta, wrth gwrs!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.