
Parks - 16 pwynt i'r maswr
Gleision 21–14 Ulster
Enillodd y Gleision ym Mharc yr Arfau am yr ail wythnos o’r bron nos Wener. Ulster oedd yr ymwelwyr yn y RaboDirect Pro12 a daeth torf dda i ganol y ddinas i weld y tîm cartref yn ennill diolch i 16 pwynt gan y maswr, Dan Parks.
Hanner Cyntaf
Yr ymwelwyr o Ogledd Iwerddon a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen wedi 12 munud diolch i Ruan Pienaar, trosedd gan Tom James yn ardal y dacl a mewnwr yr ymwelwyr yn trosi tri phwynt hawdd i roi ei dîm ar y blaen.
Ac roeddynt ym mhellach ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner wedi i’r wythwr, Robbie Diack sgorio cais cyntaf y gêm. Collodd y Gleision y bêl yn lein eu hunain ar linell ddeg Ulster cyn i Diack ddangos cyflymder a sgiliau pêl droed da iawn i sgorio’r cais. Methodd Pienaar y trosiad ond roedd y Gwyddelod ar y blaen o 8-0.
Ciciau cosb gan Dan Parks a Pienaar oedd unig bwyntiau arall yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref gau’r bwlch i bum pwynt. Llwyddodd maswr y Gleision gyda’i ymdrech gyntaf at y pyst wedi 22 munud cyn i Pienaar adfer yr wyth pwynt o fantais gyda’i ail gic gosb ef funud cyn yr egwyl. Ond roedd digon o amser i Parks ychwanegu tri phwynt arall gyda chic olaf yr hanner, 11-6 o blaid Ulster ar yr egwyl.
Ail Hanner
Roedd y gwynt y tu ôl i’r Gleision yn yr ail hanner ac fe ddechreuon nhw’n llawer mwy addawol. Ac yn wir, roeddynt yn gyfartal wedi dim ond dau funud diolch i gais gan Parks. Bu bron i Ben Blair dirio yn y gornel i ddechrau yn dilyn pas hir wych iddo gan Parks ond er i amddiffyn Ulster atal y cefnwr roedd y maswr wrth law unwaith eto i blymio dros y llinell. Methodd y trosiad wrth i’r sgôr aros yn gyfartal.
Roedd y Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wedi awr o chwarae diolch i gais yr asgellwr, Tom James, a throsiad Parks. Cafwyd cyd chwarae da gan y ddau Gavin yn y canol, Henson yn pasio i Evans ac yntau’n bylchu cyn rhyddhau James ar yr asgell. Saith pwynt o fantais i’r Gleision gyda chwarter y gêm ar ôl.
Anfonwyd maswr yr ymwelwyr, Ian Humphreys, i’r gell gosb bum munud yn ddiweddarach wedi iddo daro’r bêl ymlaen yn fwriadol. Ac er i Parks fethu’r gic gosb ganlynol fe wnaeth y maswr lwyddo i ymestyn mantais y tîm cartref i ddeg pwynt gyda chic gosb ddau funud yn ddiweddarach. 21-11 i’r Gleision ddeuddeg munud o’r diwedd.
Ac er i Pienaar achub pwynt bonws i Ulster gyda chic gosb ddeg munud o’r diwedd fe ddaliodd y Gleision eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Ymateb
Dyma ail fuddugoliaeth y Gleision ym Mharc yr Arfau mewn wyth diwrnod ac mae’n amlwg o faint a sŵn y dorf pa stadiwm y mae’r cefnogwyr yn ei ffafrio. A chafwyd awgrym gan gefnwr y Gleision, Ben Blair, yn ystod y gêm fod y chwaraewyr yn ddigon hapus yn ôl ym Mharc yr Arfau hefyd.
Dywedodd wrth y BBC ar ôl cael ei eilyddio: “Mae’n well gen i fan hyn pan mae’n llawn. Pe byddai Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn bob wythnos yna fe fyddai’r fan honno’n well ond nid yw hynny’n mynd i ddigwydd felly mae’n grêt bod yn ôl fan hyn.”
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision o’r chweched i’r pedwerydd safle yn y RaboDirect Pro12 felly go brin y byddant eisiau symud yn ôl i Stadiwm y Ddinas yn rhy fuan.