Mae 68 o swyddi yng Nghymru o dan fygythiad ar ôl i gwmni Unipart Automotive, sydd yn darparu darnau ceir ail law, gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Gallai hyd at 1,300 o swyddi ar draws Prydain gael eu colli yn dilyn hynny, ar ôl i’r cwmni geisio’n aflwyddiannus am y pythefnos diwethaf i ddod o  hyd i arian ychwanegol.

Bydd gweinyddwyr o KPMG yn cael eu penodi heddiw, ac mae disgwyl y bydd 30 o safleoedd yn cael eu gwerthu i gwmni cydrannau ceir Andrew Page, gan arbed 300 o swyddi.

Mae gan Unipart Automotive 200 o ganghennau ar draws Prydain, gan ddarparu darnau ceir i’r AA, Kwik-Fit a Nationwide Auto Centres, ond mae wedi bod yn dioddef colledion ers blynyddoedd oherwydd cwymp ym mhrisiau’r nwyddau.

Mae wyth o’r canghennau hyn yng Nghymru – yn Abertawe, Bangor, Caerfyrddin, Casnewydd, Cyffordd Llandudno, Llanelli, Tonypandy a Wrecsam.

Prif gyfranddaliwr y cwmni yw H2 Equity Partners, cwmni o’r Iseldiroedd, a brynodd siâr oddi wrth Unipart Group yn 2011.

Yn yr wythnosau diwethaf mae Unipart Automotive wedi cynnal trafodaethau â chwmnïau Euro Car Parts a Better Capital ond heb lwyddiant.