Boris Johnson
Mae Maer Llundain Boris Johnson wedi apelio ar unrhyw Geidwadwyr sy’n ystyried ymuno a UKIP i beidio â gadael y blaid.

Wrth ysgrifennu yn ei golofn yn y Daily Telegraph, dywedodd y byddai ASau Ceidwadol yn “wallgof” i adael y blaid ag ymuno a UKIP gan eu bod nhw mewn peryg o drosglwyddo grym i’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Fe wfftiodd adroddiadau bod dau neu dri o ASau Ceidwadol eraill yn bwriadu dilyn Mark Reckless drwy adael y blaid ag ymuno a UKIP.