Neuadd y Sir Caerfyrddin
Mae arweinydd Llafur Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am roi rhy ychydig o sylw i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio newydd.

Mae Kevin Madge wedi galw am ganllawiau a chyfarwyddyd cenedlaethol cadarnach i gefnogi ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf i gefnogi ffyrddo gynnal cymunedau dwyieithog.

Mewn llythyr at y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, mae’n dweud, “Dymunwn nodi siom nad yw’r Bil yn darparu llawer ynglŷn â’r iaith Gymraeg”.

Galw am newid

Mae’r llythyr hefyd yn gofyn am yr hawl i fesur effaith datblygiadau unigol ar yr iaith, yn ogystal ag effaith Cynlluniau Datblygu Lleol cyffredinol y cynghorau sir.

Trydydd pwynt allweddol yw gofyn am gefnogaeth i geisio rhagweld faint o dai sydd eu hangen mewn cymunedau penodol – mae yna ddadlau mewn sawl ardal yng Nghymru oherwydd cynlluniau i godi niferoedd mawr o dai mewn pentrefi.

Fe gafodd cynnwys y llythyr ei ollwng gan Gymdeithas yr Iaith sydd wedi croesawu a chefnogi sylwadau’r arweinydd.

Y Cyfrifiad

Mae’r galwadau wedi eu selio ar adroddiad gweithgor oedd wedi ei sefydlu yn sgil dirywiad y Gymraeg yn Sir Gâr yn y Cyfrifiad diwetha’.

Roedd hwnnw wedi cael cefnogaeth y cyngor ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn herio’r cyngor yn gyson i’w weithredu.

Ond mae’r Gymdeithas wedi galw ar i’r Cyngor ei hun ddechrau o’r dechrau ac ail-greu ei Gynllun Datblygu Lleol er mwyn ystyried anghenion unigol cymunedau.

Balch … ond – sylwadau’r Gymdeithas

“Rydyn ni’n falch iawn bod Arweinydd y cyngor, gyda chefnogaeth y cyngor cyfan, yn fodlon mynnu newidiadau i’r Bil Cynllunio fel bod y Gymraeg yn ganolog iddi,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Gyda chefnogaeth un o arweinwyr lleol pwysicaf y blaid lafur i’n safbwynt bod angen newidiadau i’r Bil, rydyn ni nawr yn obeithiol iawn bydd y Llywodraeth yn newid ei chynlluniau.”

Mae’r Gymdeithas ac arbenigwyr cyfreithiol wedi dweud bod angen rhoi lle canolog i’r Gymraeg ar flaen y Bil Cynllunio os yw am gael ei hystyried yn iawn; ac maen nhw wedi galw am i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, roi’r gorau i’w gyfrifoldeb am yr iaith oherwydd ei fethiant i wneud hynny.