Ysgol Dewi Sant, Tyddewi
Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi gwneud tro pedol ac wedi pleidleisio yn erbyn argymhelliad dadleuol i gau Ysgol Dewi Sant yn Nhyddewi.

Yn hytrach na chau’r ysgol yn gyfan gwbl, fe fydd yr ysgol yn colli ei chweched dosbarth gan ei gwneud yn ysgol i ddisgyblion 11-16 oed.

Yr argymhelliad gwreiddiol oedd symud disgyblion o Dyddewi i ysgol newydd ar safle Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun.

Ond o dan gynllun newydd fe fydd disgyblion y chweched dosbarth yn cael eu trosglwyddo i Goleg Sir Benfro yn Hwlffordd – sydd 17 milltir i ffwrdd o Dyddewi.

Mae  Cyngor Sir Benfro hefyd wedi bod yn trafod argymhelliad i greu ysgol Gymraeg 3-16 newydd yn Hwlffordd.

Roedd tua 300 o bobol yn protestio y tu allan i Neuadd y Sir yn Hwlffordd y bore yma yn erbyn cynlluniau Cyngor Sir Benfro i gau pump o ysgolion y sir a sefydlu tair ysgol newydd.

Mae bwriad i gau ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward, a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol Ysgol Syr Thomas Picton.

Bydd y cynllun ar gyfer ad-drefnu addysg bellach yn destun cyfnod o ymgynghori.

Ymgyrch angerddol

Dywedodd yr ymgeisydd seneddol Llafur ym Mhreseli, Paul Miller bod ymgyrch trigolion Tyddewi i gadw’r ysgol ar agor wedi bod yn un “angerddol”:

“Rwyf yn falch iawn dros gymuned Dewi Sant sydd wedi brwydro i gadw eu hysgol leol ar agor,” meddai.

“Mae’r ymgyrch angerddol yma gan gymuned gref wedi ennill ac wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i gymunedau lleol gadw eu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, hyd yn oed mewn adeg o doriadau ariannol.

“Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r angerdd yma yn ein cymuned i bwyso am newidiadau positif eraill – nid canoli gwasanaethau cymdeithasol yw’r ateb o hyd.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed: “Rydyn ni’n falch iawn bod datblygu addysg Gymraeg yn ardal Hwlffordd gydag ysgol uwchradd Gymraeg newydd – mae hyn yn gam sylweddol i addysg Gymraeg yn y sir.

“Er hynny mae’r argymhelliad i ganoli addysg ôl-16 ar gampws Coleg Sir Benfro yn Hwlffordd yn golygu bydd llai yn debygol o astudio drwy’r Gymraeg ar ôl cyrraedd 16 oed. Faint o ddisgyblion ardal Hwlffordd ac Aberdaugleddau sy’n debygol o deithio’r holl ffordd i Grymych i fynd mlaen â’u haddysg – heb sôn am ardal Tyddewi ac Abergwaun?
“Rydyn ni’n llawenhau gyda chymuned Tyddewi, yn dilyn derbyn gwelliant i gadw’r ysgol yno – er na fydd darpariaeth ôl-16 yno, ac yn falch na wnaeth cynghorwyr y sir dderbyn yn ddi-gwestiwn argymhellion y swyddogion i gau’r ysgol honno a rhoi’r camargraff taw ‘uno’ gyda Bro Gwaun fyddai’n digwydd.”

‘Rhannu pryder rhieni’

Ychwanegodd: “Yn anffodus, er bod twf mewn addysg gynradd Gymraeg yn Ne Orllewin y sir, byddai ysgol uwchradd newydd yn Hwlffordd yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth i’r ardal honno.

“Gan fod penderfyniadau heddiw a’r misoedd i ddod yn mynd i benderfynu ar ddyfodol addysg am y blynyddoedd nesaf rydyn ni’n rhannu pryder rhieni y bydd Dinbych y Pysgod a’r cyffiniau ar ei hôl hi o hyd, ac yn dal i weld disgyblion yn gadael y Gymraeg wrth iet yr ysgol ar ddiwedd y dydd.
“Bydd penderfyniadau heddiw yn destun ymgynghori yn y misoedd i ddod, a gobeithio y bydd yn sail i ddatblygu addysg Gymraeg ar draws y sir, fel bod pob un disgybl yn y sir yn cael rhywfaint o’u haddysg yn Gymraeg er mwyn gallu mynd ymlaen i siarad a gweithio’n Gymraeg.”