Y diweddar Meredydd Evans mewn protest heddwch ar fynydd Epynt

Mae Dafydd Iwan ymhlith llu o genedlaetholwyr ac ymgyrchwyr dros y Gymraeg sydd wedi talu teyrngedau i Meredydd Evans a chydnabod ei gyfraniad.

“Heddiw collwyd un o Gymry mwyaf ein hoes, un na all neb gymryd ei le,” meddai.

“Cenedlaetholwr rhyngwladol ei weledigaeth, ond digyfaddawd yn ei gonsyrn dros ei bobol ei hun.

“Un a ysbrydolodd genedlaethau i werthfawrogi, ac i fwynhau eu hetifeddiaeth ddiwylliannol. Un a greodd ganeuon mwyaf poblogaidd ei ddydd, ac a boblogeiddiodd ein trysorfa o ganeuon gwerin traddodiadol.

“Gwr a arloesodd ym myd adloniant y cyfryngau torfol, ond a fynnodd fynd yn ȏl i blith ei bobol i ymladd dros ddyfodol y genedl a’r Gymraeg, a phopeth a berthyn iddi.

“Gŵr o ddysg eang ac athronydd wrth ei ddisgyblaeth, gŵr o egwyddor, a Christion oedd yn cydnabod mai chwilio am y gwir yr ydym i gyd, ac un oedd yn casau meddyliau caeedig.

“Uwchlaw popeth efallai, dyn o argyhoeddiad oedd hefyd yn wleidydd ymarferol, ac un o’r rhai a fu’n allweddol wrth sicrhau Coleg Cenedlaethol Cymraeg, a sefydlu Cronfa William Salesbury i fod yn gefn iddo. Credaf mai’r Coleg Cenedlaethol bellach fydd ei waddol i’r genedl.”

‘Un a ddaliodd ati hyd y diwedd’

Ymgyrchydd arall a oedd â pharch mawr i Merêd ac a gadwodd gysylltiad cyson ag ef ar hyd y blynyddoedd yw’r awdur Angharad Tomos:

“Fo ydi’r unig un y gwn i amdano aeth i mewn i’r Sefydliad ac a ddaeth allan yn rebal,” meddai.

“Gwelodd ei Gymru yn edwino, canodd y gloch, a chafodd ei wawdio am hynny.

“Ond ddaru o rioed suro na chwerwi. Daliodd ati i ganu a charu ei gyd-ddyn hyd y diwedd, a daliodd ati i ymgyrchu.”

Un arall o gyn-arweinwyr Cymdeithas yr Iaith, Arwel ‘Rocet Jones, a fydd yn rhoi teyrnged yn ei angladd yr wythnos nesaf:

“Roedd Mered yn enaid prin oedd yn gallu cyfathrebu a phobl o bob oed a phob cefndir,” meddai.

“Tra yn ei gwmni roedd pob un, sdim ots pwy oedden nhw, yn cael pob owns o’i sylw a’i ddiddordeb a’i haelioni. Dyna sut, ar ddiwrnod fel heddiw, bod cymaint yn teimlo eu bod nhw wedi adnabod y dyn go iawn ac yn berchen ar damad bach ohono.”

‘Cymru wedi colli cawr’

Mewn datganiad, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae Cymru wedi colli cawr heddiw. Roedd Mered yn ymgyrchydd diflino dros y Gymraeg ac yn ladmerydd mawr o’r dull di-drais. Heb os roedd yn un o’r dynion anwylaf i’w adnabod a’i gariad dros yr iaith a’r pethe yn ysbrydoli cenedl gyfan.

“Heb ei gyfraniad, yn sicr ni fyddem yn mwynhau rhai o enillion mwyaf y mudiad cenedlaethol, fel sianel deledu S4C, Deddf Iaith 1993 a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Roedd hefyd yn athro a chefnogwr i gyw-ymgyrchwyr ac o hyd yn barod i helpu er mwyn cael y maen i’r wal.

“Rydym yn estyn ein cydymdemliadau dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau ac yn diolch am fywyd arbennig iawn a helpodd i newid cwys hanes Cymru a’r Gymraeg.”

‘Cyfraniad heb ei ail i’r Gymraeg’

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

“Roedd cyfraniad Merêd i fyd adloniant Cymru ac i’r iaith Gymraeg heb ei ail.

“Fe allai yn hawdd fod wedi gorffwys ar ei rwyfau ar ôl ei waith arloesol ym myd adloniant, ond fe ddewisodd barhau i ymladd ac ymgyrchu dros y Gymraeg. Am hynny rydym oll yn ei ddyled.”

Llynedd fe fu Mered yn siarad o blaid ymgyrch myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor, un o’r cyfweliadau olaf iddo roi: