Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n credu bod dyn sydd wedi’i amau o lofruddio’i fam a’i chwaer yng Nglannau Merswy wedi teithio i Lundain.

Daethpwyd o hyd i gorff Bernadette Fox, 57 fore Gwener, a chorff ei merch Sarah Fox nos Iau, mewn dau leoliad gwahanol yn Bootle.

Cafodd y fam ei thagu tra bod ei merch wedi cael ei thrywanu droeon.

Mae Peter Fox, 26, wedi’i amau o lofruddio’r ddwy ac mae Heddlu Llundain yn helpu Heddlu Glannau Merswy gyda’r ymchwiliad.

Mae timau fforensig yn dal i chwilio’r ddau dŷ ac mae’r heddlu’n edrych ar gamerâu cylch-cyfyng.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoedd i beidio mynd yn agos at Fox.