Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Methiant fferi i Iwerddon: Beirniadu Llywodraeth Cymru

Chwefror 4, 2012 09:06


Llun o wefan y cwmni
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei beirniadu am “wneud dim byd” i geisio ei achub y gwasanaeth fferi o Abertawe i Gorc yn Iwerddon.

Cyhoeddodd cwmni Fastnet Line ddydd Iau eu bod nhw’n bwriadu cau’r gwasanaeth ar ôl methu a sicrhau ei fod yn gwneud arian.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newyddion yn siomedig, ond nad oedd dyfodol i’r fferi gan oedd na oedd ymarferol ei gadw i fynd.

Ond wfftiodd John Williams, is-gadeirydd Cymdeithas Gydweithredol Dwristaidd Gorllewin Corc, a sefydlodd Fastnet Line, yr awgrym hwnnw.

Dywedodd nad oedd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi gwneud digon er mwyn ceisio achub y gwasanaeth.

“Roedd Llywodraeth Cymru wedi trafod â ni ar y dechrau, ond roedden nhw wedi cadw eu pellter wrth i amser fynd yn ei flaen,” meddai.

“Roeddwn i wedi ysgrifennu ar swyddfa Edwina Hart ar sawl achlysur yn gofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb â hi ond doedd yna ddim ymateb o gwbl.

“Dydyn ni erioed wedi cael y broblem honno â gweinidogion Llywodraeth Iwerddon, ac wedi cyfarfod â’u gweinidogion nhw.”

Atal y gwasanaeth

Sefydlwyd y fferi o Abertawe i Gorc yn 1987. Daeth y gwasanaeth i ben yn 2006 ar ôl i gwmni Swansea Cork Ferries werthu’r llong.

Yn 2010 ailsefydlwyd y gwasanaeth gan Fastnet Line, ond cafodd ei atal dros y gaeaf oherwydd cost tanwydd uwch na’r disgwyl.

Ddoe cyhoeddodd y cwmni bod “tâp coch” yn eu hatal nhw rhag ail-lansio’r gwasanaeth, er i Gyngor Swydd Corc gynnig £166,000 iddyn nhw wneud hynny.

Dywedodd John Williams bod y cyhoedd a gwleidyddion ar bob ochor i Fôr Iwerddon wedi cefnogi’r gwasanaeth.

Ond er nad oedd yn rhoi’r bai i gyd ar Lywodraeth Cymru roedd yn siomedig nad oedden nhw wedi “ymdrin â materion yn well”.

“Dim ond fy marn i yw hyn, ond dydw i ddim yn credu eu bod nhw wedi gwneud cymwynas â phobol Cymru. Fe fydd Cymru yn colli £20 miliwn mewn refeniw gan dwristiaid,” meddai.

“Mae hefyd yn ergyd i Abertawe ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd eu rhaglen i drydanu’r rheilffordd yn dod i ben yng Nghaerdydd.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y gwasanaeth fferi o Abertawe i Gorc bellach yn gwneud synnwyr ariannol.

“Mae yn amlwg yn newyddion siomedig, ond mae Cyllid Cymru wedi cynghori Llywodraeth Cymru nad yw’r cais gan Fastnet Line Group am gymorth ariannol ychwanegol i’r gwasanaeth fferi o Abertawe i Gorc yn hyfyw yn fasnachol,” meddai.

“Roedd datblygu’r gwasanaeth o Abertawe i Gorc eisoes wedi derbyn benthyciad o £2.35 miliwn gan Gyllid Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad agos â Llywodraeth Iwerddon ar y mater.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.