
Bradley Manning
Fe fydd aelod o fyddin yr Unol Daleithiau sydd wedi ei gyhuddo o roi gwybodaeth gyfrinachol yn nwylo gwefan Wikileaks yn wynebu achos mewn llys milwrol, cyhoeddwyd heddiw.
Mae Bradley Manning, 24 oed, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi ei gyhuddo o 22 trosedd ac fe allai dreulio gweddill ei oes dan glo.
Ymysg y cyhuddiadau yn ei erbyn mae rhoi cymorth i’r gelyn a chyhoeddi mwy na 700,000 o ddogfennau cyfrinachol.
Cyhoeddwyd heddiw bod y Cadfridog Uwchgapten Rhanbarth Milwrol Washington, Michael Linnington, wedi cyfeirio’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn at y llys milwrol.
Does dim dyddiad wedi ei benodi ar gyfer y cwrt-marsial eto.
Mae’r cyfreithwyr sy’n amddiffyn Bradley Manning wedi dadlau na ddylai’r fyddin erioed fod wedi ei anfon i Irac na chwaith rhoi mynediad iddo i’r wybodaeth gyfrinachol.
Roedd yn dioddef yn emosiynol am ei fod yn filwr hoyw ar adeg pan nad oedd yn cael datgelu hynny, medden nhw.
Maen nhw hefyd yn dadlau nad ydi cyhoeddi’r deunydd ar Wikileaks wedi gwneud unrhyw niwed difrifol i ddiogelwch y wlad.
Roedd Bradley Manning yn gweithio fel dadansoddwr cudd-wybodaeth yn Irac rhwng diwedd 2009 a chanol 2010.
John Griffith , Chwefror 4, 2012 11:35 am
§| Nodi camddefnydd