Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Protestio yn Llundain ar ôl cyflafan Syria

Chwefror 4, 2012 12:21


Arlywydd Assad Syria
Mae pump o bobol wedi eu harestio ar ôl cael mynediad i lysgenhadaeth Syria yn Llundain yn ystod protest, cyhoeddodd Scotland Yard heddiw.

Roedd tua 150 o bobol wedi protestio yn y llysgenhadaeth yn Sgwâr Belgrave yn dilyn adroddiadau fod mwy na 200 wedi eu lladd gan lywodreath Syria yn ninas Homs.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met fod nifer o bobol wedi eu harestio am fynd yn groes i’r drefn gyhoeddus.

Dechreuodd y protest am 2am y bore ma ac roedd yr heddlu wedi ymddwyn mewn modd “priodol”, medden nhw.

Cafodd ffenestri’r adeilad eu malurio yn ystod y brotest.

“Roedd pum dyn wedi cael mynediad i’r adeilad. Maen nhw bellach wedi eu harestio,” meddai lefarydd ar ran yr heddlu.

Cynllun

Daw’r brotest wrth i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig baratoi i gyfarfod heddiw er mwyn cymeradwyo cynllun i sicrhau heddwch yn Syria.

Maen nhw wedi gwrthod ymyrraeth filwrol yn y wlad ond yn gobeithio y bydd modd gorfodi’r Arlywydd Bashar Assad i drosglwyddo grym i’w ddirprwy-arlywydd.

Mae o leiaf 5,500 o bobol wedi marw yn y wlad ers i brotestwyr sydd o blaid democratiaeth ddechrau protestio yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad y llynedd.

Mae’r protestwyr yn honni fod gweinyddiaeth Assad wedi defnyddio tanciau a gynau peiriant i ladd o leiaf 200 o bobol ac anafu cannoedd yn ninas Homs.

Os yw’r honiadau yn wir dyma fyddai’r ymosodiad mwyaf gwaedlyd o’i fath ers dechrau’r brwydro.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd , Chwefror 4, 2012 1:44 pm

Dioch i Rwsia am beidio a chymaeradwyo’r cynllun “heddwch” fel ag y mae. Mae Rwsia yn mynnu fod y cynllun yn rhoi’r pwyslais i gyd ar lydwodraeth Assad a fawr ddim ar y grwpiau arfog sy’n ei erbyn. Mae nhw’n cofio ffars a gymerodd lle yn Libya tebyg iawn. Wrth gwrs, ni chewch wybod am hyn gan y British Biased Corporation. Ond yw hi’n rhyfedd tra bod y Cenhedloedd Unedig yn cwrdd i drafod Syria, honir fod ymladd wedi torri allan lle mae degau os nad canoedd wedi eu lladd.

“Mae o leiaf 5,500 o bobol wedi marw yn y wlad ers i brotestwyr sydd o blaid democratiaeth….” Mae ‘na difer o gwrpiau yn protestio am wahanol resymau felly nid yw hynna’n gywir.

§

CGT , Chwefror 4, 2012 4:48 pm

Wyddwn i ddim mai ‘dafydd’ oedd enw cyntaf Assad o’r blaen !

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 4, 2012 6:19 pm

Gwyddwn yn iawn dy fod ti’n llyncu pobpeth CGT mae’r cyfryngau a’r awdurdodau gorllewinol yn dweud wrthot. Ie….yn iawn ‘fyd!

§| Nodi camddefnydd

Eifion Williams , Chwefror 4, 2012 8:55 pm

Mae’n hen amser delio gyda Assad. Hen gythraul dan-din yw Assad a’i deulu, Hitler y dwyrian ganol.

Dowch ona Gorllewin bomiwch Syria rwan, a gore po gynted.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 4, 2012 10:37 pm

Wel Eifion Williams…..mae lot o’r boblogaeth yn ei gefnogi ac mae’r rheiny’n cynnwys grwpiau lleiafrifol yn y wlad. Dwi’n cofio siarad a’r dyn yma oedd yn Aramaiad (nid o Armenia) – Cristion oeddynt yn byw yn ardal Mesepotamia ac ardaloedd cyfagos. Roedd e’n siarad yn uchel iawn am Assad. Ond wrth gwrs, y tad oedd hwnnw. Ti’n dweud taw ‘cythraul dan-din yw Assad…..’ ond nid yw hynny’n golygu ei fod eisiau cael ei somomeiddio fel Gadaffi gan y rebeliaid hyfryd yna.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 5, 2012 8:40 am

“Russia and China veto is an hour of shame for UN.” Meddai William Hague. :-)) Mae cynlluniau’r rhyfelgwn ar stop…..am nawr.

§| Nodi camddefnydd

Dylan Llyr , Chwefror 5, 2012 9:46 am

Difyr. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna Fa’athydd rhonc yn darllen Golwg. Dysgu rhywbeth bob dydd.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 5, 2012 10:59 am

Ti’n dysgu rhywbeth bob dydd. Diddorol hefyd yw dysgu fod cymaint o Brydeinwyr rhonc rhyfelgar yn byw ymysg y Cymry!

§| Nodi camddefnydd

CGT , Chwefror 5, 2012 11:38 am

Yr wyf o blaid annibyniaeth llwyr i fy ngwlad fy hun ,ac yn wrth-Brydeinig .Bum yn gorymdeithio yn erbyn rhyfeloedd y Malvinas, Afghanistan ac Iraq .Credaf, serch hynny, fod gan bobl y trydydd byd hawl i ddemocratiaeth hefyd. Nid yw bod yn genedlaetholwr a Sosialydd yn gyfystyr a bod yn wrth-orllewinol a gwrth-Americanaidd . Ni fu farw llawer o bobl yn ceisio dianc i mewn i Ddwyrain Berlin.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Chwefror 5, 2012 12:23 pm

Felly CGT….rwyt ti o blaid imperaliaeth America a’r safbwynt Prydeinig o’u cefnogi wrth iddynt ymosod ar un glwad ar ol y llall? Nid yw brwydro mewnol mewn gwlad ymysg gwahanol grwpiau ethnig yn gyfystyr a’r frwydr am ddemocratiaeth. Dylai Libya fod wedi dysgu hynna i ti. Beth ddigwyddod yno ddoe? Bu far cyn ddiplomydd dan Gadhaffi……mewn carchar. Yn ol bob teby….nid oherwydd henoed.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.