
Roy Sly
Dyn 37 oed o Gymru yw’r trydydd i gael ei gyhuddo yn dilyn llofruddiaeth dyn mewn fflat yn Essex.
Daethpwyd o hyd i gorff Roy Sly, 53, yn ei gartref ar Station Road, Westcliff, ar 10 Ionawr.
Cafodd Peter Smith, o Furnace Row, Troedyrhiw, Merthyr Tudful ei arestio yn ardal Southend ddydd Gwener.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Southend heddiw.
Bydd dynes a dynes sydd eisoes wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Roy Sly yn ymddangos gerbron Llys y Goron Chelmsford ym mis Ebrill.
Mae’r heddlu yn cynnal profion er mwyn penderfynu sut y bu Roy Sly farw, yn dilyn canlyniad amhendant archwiliad post-mortem.