Hen goleg, Prifysgol Aberystwyth - yr undeb yno yn un sy'n ystyried y camre nesa'
Mae arweinwyr undebau myfyrwyr prifysgolion Cymru yn cynnal cyfarfod brys i drafod penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i gronfa argyfwng gwerth £2.1 miliwn y flwyddyn.

Maen nhw wedi cyhuddo’r Llywodraeth o wneud cam â’r myfyrwyr mwya’ di-fraint ac o wneud y cyhoeddiad ynghanol gwyliau’r haf ac ar ddiwrnod pan oedd yr holl sylw ar ganlyniadau TGAU.

Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu y gall prifysgolion bellach dalu am eu cronfeydd argyfwng eu hunain.

Ac maen nhw wedi rhybuddio y bydd rhagor o doriadau i’r gefnogaeth i fyfyrwyr y flwyddyn ariannol nesa’.

Caledi

Roedd y Llywodraeth yn cydnabod y gallai’r cyhoeddiad hwyr achosi trafferthion; mae undebau’r myfyrwyr yn mynnu y bydd yn achosi caledi mawr.

Fe fydd rhai myfyrwyr yn diodde’ ar unwaith, medden nhw, gan eu bod wedi cael addewidion o gymorth ond na fydd hwnnw bellach ar gael.

Maen nhw hefyd yn honni y bydd rhai’n gorfod newid eu meddwl a rhoi’r gorau i’w cyrsiau.

Cefndir y Gronfa

Mae’r Gronfa Galedi wedi bod ar gael i helpu myfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig, er enghraifft oherwydd argyfwng annisgwyl, peryg o orfod rhoi’r gorau iddi oherwydd arian neu oherwydd cyllido gwael.

Roedd blaenoriaeth i fyfyrwyr gyda phlant, rhai gyda dyledion, pobol ag anableddau, pobol sy’n gadael gofal, neu fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf.

Dim ond heddiw y cafodd Undeb Myfyrwyr Cymru glywed, meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Jacob Ellis.

Roedd ef a thua deg o arweinwyr eraill mewn cynhadledd Brydeinig ac maen nhw wedi trefnu cyfarfod brys i drafod y penderfyniad ac ystyried pa gamre i’w cymryd.

‘Siomedig a rhwystredig’

“R’yn ni’n siomedig ac yn rhwystredig gan ystyried pryd y maen nhw wedi penderfynu cyhoeddi hyn,” meddai Jacob Ellis. “Maen nhw wedi ei wneud ynghanol yr haf pan nad oes myfyrwyr o gwmpas.

“Fe fydd myfyrwyr yn disgyn allan o’u cyrsiau oherwydd hyn ac fe fydd mwy o bwysau ar wasanaethau fel banciau bwyd.

“Mae’r penderfyniad am daro’r rhai llai breintiedig sydd am fethu â mynd i brifysgol.”

Fe ddywedodd y byddai’r undebau ar draws Cymru yn casglu tystiolaeth am fyfyrwyr sydd wedi eu heffeithio ac yn anfon yr wybodaeth at y Llywodraeth er mwyn ceisio’u perswadio i newid eu meddwl.

Datganiad y Llywodraeth

“Mae’r wasgfa barhaus ar gyllidebau, sydd wedi ei gosod gan Lywodraeth Prydain yn golygu bod Gweinidogion wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar draws cyllidebau Addysg Uwch ac Addysg Bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2014-15.

“Rydym yn cydnabod yn llawn y gall oedi gyda chyhoeddiad am y toriadau i’r Gronfa Argyfwng Ariannol achosi trafferthion i’r sector Addysg Uwch ond rydym yn falch o allu dali gefnogi’r FCF yn y sector Addysg Bellach.

“Mai incwm sefydliadau addysg uwch wedi codi yn sylweddol trwy’r ffioedd uwch i fiyfyrwyr cartref a recriwtio rhagor o fyfyrwyr rhyngwladol. Diolch i’r drefn gyllido newydd hon, bydd incwm i Addysg Uwch Cymru yn codi bron £200 erbyn 2016.

“Mae Gweinidogion yn ystyried bod sefydliadau addysg uwch bellach yn gallu defnyddio eu cronfeydd dewisol eu hunain i helpu eu myfyrwyr eu hunain sy’n wynebu caledi ariannol.

“Mae’n bwysig nodi mai gan Gymru y mae’r gefnogaeth fwya’ hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Undeig, ond mae’n debyg y bydd rhaid i ragor o arbedion gael eu gwneud yn 2015-16.”