Mae rhaglen newydd i ddysgu hanes yn ysgolion cynradd Cymru’n tanseilio nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru.

Dyna honiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) sydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn mynegi “pryder difrifol” am y sefyllfa.

Mae RhAG ar ddeall bod nifer cynyddol o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg bellach yn defnyddio adnodd a elwir Conglfeini /Cornerstones, adnodd a gynlluniwyd yn y lle cyntaf i ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr.

‘Anaddas’

Meddai Lynne Davies ar ran RhAG: “Mae’r pecynnau hyn wedi’u teilwra tuag at farchnad ysgolion Lloegr. Ethos Seisnig Cwricwlwm Lloegr yw craidd y pecyn, ac mae’n anaddas i ysgolion Cymru. Er bod peth cyfeirio at hanes Cymru, mae’r pwyslais ar orsedd Lloegr ac arferion Lloegr.

“Cwbl dorcalonnus yw canfod sefyllfa ble bydd plant ysgolion cynradd y cymoedd yn gwybod union ddyddiadau brenhinoedd a breninesau Lloegr ond ddim yn gwybod bod hanes eu cynefin eu hunain wedi’i seilio ar y diwydiant glofaol.

“Mae’r pecynnau hyn ar gael yn y Gymraeg, ond cyfieithiadau uniongyrchol o’r Saesneg ydynt ac felly cyflwynir y disgyblion i adnoddau nad ydynt yn adlewyrchu’n foddhaol y Cwricwlwm Cymreig na phwnc Hanes yn y Cwricwlwm yng Nghymru.”

‘Cwricwlwm Cymru’

Ychwanegodd Lynne Davies: “Gofid pellach yw’r pecyn a grëwyd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sy’n cynnwys fersiwn Cymraeg a gynhyrchwyd yn arbennig.

“Mae deunydd sy’n cyflwyno hanes Lloegr gydag atodiadau Cymreig yn mynd yn groes i weledigaeth y pwyllgor a fu’n adolygu’r Cwricwlwm Cymreig o dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones. Argymhelliad y pwyllgor hwn yw bod ‘Cwricwlwm Cymru’ yn cael ei gynnig ar sail hanes Cymru, gyda phersbectif rhyngwladol.”

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn galw arno i ymchwilio i’r sefyllfa ar fyrder ac mae’n galw ar yr Athro Graham Donaldson i roi sylw i hyn fel rhan o’i adolygiad ar y gyfundrefn addysg yng Nghymru.