Galw am ychwanegu at fesur sy'n mynd trwy'r Cynulliad
Wrth i fesur i daclo trais yn y cartref gyrraedd y cam nesaf yn y Cynulliad, mae arbenigwyr yn galw am ychwanegu elfennau addysgol ato, er mwyn lleihau trais yn y genhedlaeth nesaf.

Mae’r Grŵp Gweithredu Trais yn Erbyn Menywod yn galw am wersi i ddysgu plant a phobol ifanc sut i gynnal perthnasau iach ac am y gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef o drais neu aflonyddu rhywiol a domestig.

Mae ymchwil gan y gymdeithas warchod plant, yr NSPCC, a Phrifysgol Caerdydd wedi datgelu bod llawer o drais corfforol a rhywiol ymysg pobol yn eu harddegau.

Fe ddywedodd Cathy Owens o’r Grŵp Gweithredu y byddai modd i’r mesur wneud “gwahaniaeth mawr” i fywydau pobol ifanc:

‘Annog newid’

“Rydym wedi cyflwyno argymhellion cryf ar sut y gall y mesur wneud gwahaniaeth mawr i bobol ifanc trwy addysg, sy’n rhywbeth sydd ar goll o’r mesur ar hyn o bryd,” meddai Cathy Owens.

“Mae hi’n hanfodol bod y ddeddf newydd yn annog newid, fel bod pobol ifanc sy’n dioddef neu yn gweld unrhyw fath o drais yn erbyn marched yn gwybod lle i fynd i gael cefnogaeth.

Argymhellion

Mae’r argymhellion y grŵp yn cynnwys:

  • Hyfforddi un aelod o staff ym mhob ysgol i gefnogi a chynghori disgyblion
  • Gwersi ar sut i gynnal perthnasau iach ac adolygiadau o’u safon
  • Penodi pencampwr ymhlith llywodraethwyr yr ysgol
  • Sicrhau cefnogaeth i blant sydd heb fod yn yr ysgol.