Mae arweinwyr undebau athrawon yng Ngwynedd heddiw wedi beirniadu’r “effaith drychinebus” gaiff y toriadau arfaethedig o £4.3m i gyllidebau ysgolion o fis Ebrill nesaf ar addysg yn y sir.

Mae’r cyngor wedi rhybuddio fod ysgolion yn wynebu’r bygythiad o 6.3% o ostyngiad i’w cyllideb i gyflawni’r arbedion sydd angen i’r cyngor eu gwneud.

Mae’r undebau’n honni y byddai’r toriadau hyn yn “hunllefus” i addysg yn y sir. Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gall y toriadau olygu dosbarthiadau mwy, a chymysg o ran oedran, yn yr ysgolion cynradd a phynciau yn diflannu o’r cwricwlwm yn yr ysgolion uwchradd.

Diswyddo

Dywedodd Neil Foden ar ran undebau athrawon Gwynedd fod mwy na 30 ysgol yn barod wedi cychwyn y broses diswyddo gorfodol, gan gynnwys tri chwarter yr ysgolion uwchradd, ac mae’r undebau yn ofni y bydd 40% o’r ysgolion cynradd yn wynebu trafferthion mawr.

Meddai Neil Foden: “Bydd rhai ysgolion yn colli hyd at hanner miliwn o bunnoedd o ganlyniad i’r cyngor yn ceisio byw o fewn y cyllid a dderbyniant gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn gwneud nonsens o’r gred fod addysg yn parhau i gael ei gyllido yn fwy hael oherwydd addewid y Llywodraeth i roi 1% yn fwy na’r dyraniad i addysg.

“O gofio bod niferoedd disgyblion hefyd yn gostwng mewn sawl rhan o Wynedd, sydd yn lleihau’r cyllid i ysgolion, a than-gyllido’r chweched dosbarth gan Lywodraeth Cymru, mi ydan ni bellach yn cael ein taro ddwywaith gan y diffyg cyllid a’r toriadau.

“Mae’n glir fod maint y toriadau yn amrywio o gyngor i gyngor. Sut tybed mae rhai awdurdodau fel Wrecsam i’w gweld yn gallu amddiffyn cyllidebau ysgolion i raddau helaeth, ond ysgolion yng Ngwynedd yn wynebu toriadau pellgyrhaeddol iawn?”

‘Toriadau digynsail’

Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Oherwydd toriadau digynsail yn yr arian mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan y llywodraeth i ddarparu gwasanaethau lleol, mae bob un o wasanaethau’r Cyngor yn gorfod cynllunio i gyflawni cyfanswm arbedion o £34 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf.

“Yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi amddiffyn ysgolion y sir drwy adnabod a gweithredu arbedion trymach ar draws gweddill gwasanaethau’r Cyngor. Erbyn hyn yn anffodus, oherwydd maint yr her ariannol byddai parhau i warchod ysgolion yn llwyr yn cael effaith pellgyrhaeddol ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau hanfodol eraill gan fod ein cyllideb addysg yn cynrychioli 38% o gyllideb y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

“Oherwydd hyn, ym mis Hydref, penderfynwyd gosod targed arbedion o £4.3 miliwn dros y tair blynedd nesaf i’n hysgolion. Mae’r targed hwn yn gyfystyr ag oddeutu 6% o gyllideb ysgolion y sir ac yn golygu ein bod yn parhau i ddarparu gwarchodaeth sylweddol iawn i’n hysgolion o’i gymharu gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a fydd yn gorfod ymdopi gyda gostyngiad rywle rhwng 15% ac 20% yn dros yr un cyfnod.”