Fe all ysgol Gymraeg gael ei sefydlu yn y Trallwng am y tro cyntaf, fel rhan o gynllun Cyngor Powys i foderneiddio ac arbed arian yn ysgolion y dref.

Mae swyddogion yn paratoi i gynnal ymgynghoriad ar y mater yn y flwyddyn newydd.

Meddai’r Cynghorydd Arwel Jones, Aelod o’r Cabinet dros Addysg, a fydd yn arwain y panel sydd am fod yn ystyried y cynllun i drawsnewid ysgolion cynradd ac uwchradd y Trallwng:

“Bydd y panel yn ystyried yr ysgolion hynny sy’n diwallu un o feini prawf y fframwaith newydd – sy’n edrych ar safonau addysgol, arweinyddiaeth, nifer y disgyblion, lleoedd gwag, cyflwr yr adeiladau a chyllid, ac fe allent fod yn destun arolwg ffurfiol.

“Mae’r meini prawf adolygu newydd yn cynnwys newidiadau sylweddol i’r hen bolisi ond mae’n adlewyrchu blaenoriaethau addysgol sy’n newid a’r hinsawdd economaidd bresennol.”

Ychwanegodd: “Bydd yr adolygiad a fydd yn edrych ar Ysgol Maesydre, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Gungrog, Ysgol Babanod Ardwyn, Ysgol Babanod Oldford yn ogystal â Thre’r Llai, yn ystyried ystod o ddata megis nifer y disgyblion, cyflwr adeiladau’r ysgol a safonau addysgol.

“Ry’n ni wedi cael cyfarfod positif iawn gyda chynrychiolwyr o’r holl ysgolion yn amlinellu’r broses y bydd yr adolygiad yn ei gymryd a’r amserlen debygol ar gyfer unrhyw newidiadau a gynllunnir.

“Ni fyddai unrhyw waith adeiladu’n dechrau tan ar ôl i’r achos busnes gael ei gymeradwyo sy’n annhebygol cyn diwedd 2016” dywedodd.

‘Ffyddiog’

Ychwanegodd Catherine Morris, Swyddog Datblygu Mudiad Meithrin Powys wrth siarad ar y Post Cyntaf:
“Mae’r gynulleidfa yna a falle bydde ysgol Gymraeg yn sbardun i gael mwy yn y dyfodol. Dw i’n ffyddiog y bydd llwyddiant yma yn y Trallwng”.

Fe fydd y cyngor yn ymgynghori yn y flwyddyn newydd.