Ffred Ffransis yn cymryd rhan mewn protest flaenorol
Mae llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, wedi cyhoeddi y bydd yn mynd heb ddŵr na bwyd am 50 awr o ddydd Mercher ymlaen.

Y nod meddai yw dangos fod perygl i fywyd y gymuned wledig Gymraeg a fydd yn cael ei drafod ddiwedd yr wythnos mewn cyfarfod gan Gyngor Gwynedd ar ddyfodol Ysgol y Parc.

Brynhawn Iau fe fydd cyngor Gwynedd yn trafod yn derfynol argymhelliad i gau Ysgol Y Parc, ger Y Bala.

Dywedodd Ffred Ffransis ei fod eisoes wedi anfon llythyr at bob cynghorydd yn dweud nad oes unrhyw reswm addysgol dros gau’r ysgol, nag unrhyw arbedion ariannol ar raddfa a all gyfiawnhau chwalu cymuned Gymraeg.

Mae’n annog y Cyngor i ystyried creu ffederasiwn o ysgolion yn yr ardal fyddai’n golygu eu bod nhw’n rhannu adnoddau.

“Fy nghred ddiffuant yw bod bywyd y gymuned Gymraeg fechan hon yn y Parc yn y fantol, ac y bydd colli’r ymdrech i gadw’r ysgol yn ergyd i fywyd nifer o gymunedau Cymraeg fach eraill,” meddai.

“Symbol o fywyd yw dŵr ac, er mwyn ceisio dangos i’r Cyngor mor ddifrifol yw’r argyfwng i fywyd y gymuned hon, byddaf yn treulio 50 awr heb ddŵr na bwyd yng Nghaernarfon cyn dechrau’r cyfarfod.”

Dywedodd Ffred Ffransis mai ei gyfrifoldeb personol ef yw’r penderfyniad, ar ôl gweld y chwalfa gymdeithasol yn ei bentref ei hun yn dilyn cau’r ysgol, ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb ar gynghorwyr am y penderfyniad.

“Nid oes unrhyw hawl na disgwyliad gennyf y byddech yn newid penderfyniad oherwydd fy mod i’n dewis gweithredu mewn modd arbennig,” meddai.

“Yr unig ddisgwyliad a gobaith sydd gennyf yw y gwnewch chi ddarllen y cyfan o’r ymatebion gyda meddwl a chalon agored cyn dod i’ch penderfyniad. Yn fy ffordd fy hun, rwy’n derbyn fy nghyfrifoldeb i. Dyma’ch cyfrifoldeb chwithau.”

Bydd Ffred Ffransis yn mynd at swyddfa’r Cyngor am 11.30am yfory gyda 75 copi o’i dystiolaeth dros gadw Ysgol Y Parc ar agor.