Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pobl ifanc o Gymru ar daith i Batagonia

Hydref 19, 2011 12:32



Mae 20 o bobol ifanc o ogledd Cymru sy’n aelodau o Urdd Gobaith Cymru yn mynd ar daith i Batagonia yn yr Ariannin heddiw.

Pwrpas y daith yw cyflwyno’r bobol ifanc i fywyd Cymreig yr Archentwyr ym Mhatagonia.

Fe fydd y bobol ifanc yn gwneud gwaith gwirfoddol fel gwaith cynnal a chadw tu allan i’r capeli, cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa a chynnal adran yn yr Ysgol Gymraeg.

Er mwyn mynd ar y daith roedd rhaid i’r bobol ifanc wneud cais yn egluro pam eu bod eisiau manteisio ar y cyfle, a chodi £2,000 yr un trwy weithgareddau lleol megis cyngherddau a theithiau cerdded.

Pobol ifanc

Y 20 person ifanc fydd yn mynd ar y daith yw Manon Elwyn Hughes, Bronwen Price a Gethin Griffiths o Ysgol Brynrefail, Llanrug ger Caernarfon; Sian Parry a Sioned Wyn Jones o Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn; Anest Evans, Manon Roberts, Ceri Lewis a Lora Thomas o Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli; Catrin Euron Lewis, Catrin Eilwen Davies a Beca Glyn o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst; Bethany Juckes-Hughes a Steffan Rhys Hughes o Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy; Lois Morus o Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam; Nia Shaw, Erin Owain, Ifan Dafydd Jones, a Rhiannon Thomas a Catrin Donnelly o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

‘Codi blys’

“Mae’r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn bodoli mewn gwlad mor bell yn Ne America yn codi blys arnaf i fynd yno ac i gael y profiad o weld drosof fy hun pa mor wahanol yw hi yno i Gymru fach,” meddai Manon Elwyn Hughes o Fethel ger Caernarfon.

“Rwy’n hoff o ieithoedd felly mi fydd cymharu sut mae’r bobl o Batagonia’n siarad ein hiaith a sut mae’r iaith wedi datblygu yno o gymharu â ni yn ddiddorol iawn.  Mae’n anhygoel fod iaith fechan, gyda dim ond 600,000 o bobl yn ei siarad yng Nghymru, i’w chlywed mewn cyfandir hollol wahanol ochr arall i’r byd.”

Dyma fydd y bedwaredd flwyddyn i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio yn trefnu’r daith hon i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.