Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Adran addysg San Steffan yn ymddiheuro wrth Lywodraeth Cymru

Rhagfyr 14, 2011 16:21, Diweddarwyd Rhagfyr 15, 2011 10:22


Leighton Andrews
Mae Gweinidog Ysgolion San Steffan wedi anfon llythyr o ymddiheuriad at Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ar ôl iddyn nhw anfon llythyr uniaith Saesneg at athrawon Cymru cyn y streic fis diwethaf.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan wrth Golwg 360 fod Gweinidog Ysgolion Prydain, Nick Gibb, bellach wedi anfon llythyr at Leighton Andrews yn ymddiheuro na anfonwyd llythyr Cymraeg  hefyd.

Cafwyd nifer o gwynion gan athrawon ar draws Cymru pan anfonwyd y llythyr atyn nhw, ddyddiau’n unig cyn streic y sector cyhoeddus ddiwedd mis diwethaf, gyda chyfarwyddiadau ar sut i gyfri cyfanswm eu pensiynau, yn sgil toriadau’r Llywodraeth, drostyn nhw eu hunain.

Cadarnhaodd y llefarydd wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi anfon y llythyr yn uniaith Saesneg at athrawon Cymru a Lloegr, ond fod copi o’r llythyr bellach ar gael yn Gymraeg – ar y we.

Pechu gweinidogion Cymru

Mae Gweinidog Addysg Cymru yn dweud nad oedd e’n gwybod dim ar y pryd fod Adran Addysg San Steffan yn bwriadu anfon miloedd o lythyron at athrawon Cymru.

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg wrth Golwg 360 heddiw eu bod nhw wedi rhoi gwybod i’w swyddogion cyfatebol yn y Cynulliad am y bwriad i lythyru’r athrawon.

“Dywedodd y swyddogion wrthon ni fod hynny’n iawn – heb sôn dim byd am y Gymraeg,” meddai llefarydd San Steffan. “Ond mae’n amlwg na chafodd y gweinidogion i gyd wybod.

“Os ydyn ni wedi ypsetio unrhyw un, rydyn ni’n ymddiheuro am hynny,” meddai’r llefarydd ar ran Nick Gibb.

Ond gwrthod yr esboniad yn llwyr y mae Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran  Llywodraeth  Cymru wrth Golwg 360 fod “dyletswydd ar San Steffan i hysbysu Leighton Andrews, a gwnaethon nhw ddim.

“Petai nhw wedi sôn wrth Leighton Andrews, fydde fe’n sicr wedi tynnu sylw at yr angen i wneud y llythyr yn ddwyieithog.

“Ond y gwir yw doedd ganddyn nhw ddim y cwrteisi i dynnu sylw’r Gweinidog at y bwriad o lythyru’r athrawon.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Neilyn , Rhagfyr 14, 2011 4:57 pm

Dwi bron, bron hynny yw, a teimlo rhywfaint o dosturi drost swyddogion Llywodraeth San Steffan. Gorfod paratoi llythyr mewn ‘foreign language’ ar sail cwyn/cais/gorchymyn/deddf [ticiwch ei hoff flwch] oddiwrth ‘rhan’ o’r DG, a rhan sydd ddim hyd yn oed yn bodoli lle mae’r faner Brydeinig balch yn y cwestiwn! Tydi pethau wedi newid ers datganoli.

§

ann rhydeddus , Rhagfyr 14, 2011 5:42 pm

Braf byddai gweld llythyrau Cymraeg yn dod o Gaerdydd i ysgolion heb son am o Lundain!

§

Ifor Hughes , Rhagfyr 14, 2011 10:19 pm

Allwch chi plis arddangos RHYBUDD CYN dangos llun o Leighton ma ei wyneb mor salw ! Plis Golwg 360 ysytyriwch pobl sy’n darllen adeg brecwast – gall lluniau fel uchod wneud i bobl hwdu dros y ford .

Dylech chi hefyd arwyddo disclaimer gynta a phrofi bod chi dros 18 cyn cael gweld wynebryd Mr. Andrews.

Dwi’n teimlo dros ei wraig meddyliwch codi i weld hwnna bob bore ! Na pam ma golwg ‘shocking’ are Ms Beynon fel ei bod hi wedi rhoi ei bys mewn socket lectric.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.