Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Prif Weithredwr CBAC yn cael ei holi gan ASau

Rhagfyr 15, 2011 08:18, Diweddarwyd am 12:04


Gareth Pierce
Mae prif weithredwr CBAC ymhlith y rhai sy’n cael eu holi bore ma gan Bwyllgor Dethol Addysg San Steffan yn dilyn honiadau mewn papur newydd fod  arholwyr wedi rhoi gwybodaeth am gwestiynau arholiadau TGAU i athrawon.

Bydd Gareth Pierce yn rhoi tystiolaeth heddiw ynghyd â dau arholwr CBAC gafodd eu gwahardd o’u gwaith dros dro yn dilyn yr honiadau yn y Telegraph.

Fe fydd prif weithredwyr tri o fyrddau arholi Lloegr hefyd yn cael eu holi gan Aelodau Seneddol.

Roedd y Telegraph wedi honni bod athrawon wedi cael gwybodaeth fanwl  am gwestiynau fyddai’n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU a chyngor ynglŷn â sut y gallen nhw gael marciau uwch.

Roedd y ddau arholwr – Paul Evans a Paul Barnes – wedi cael eu henwi yn adroddiad y Telegraph.

Fe fyddan nhw’n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Addysg San Steffan sy’n cynnal yr ymchwiliad.

Fe fydd y pwyllgor yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol Graham Stuart.

Ddoe, roedd  Gweinidog Addysg Cymru wedi gorchymyn adolygiad i sector cymwysterau’r wlad  yn dilyn yr honiadau.

Fe ddywedodd Leighton Andrews AC y byddai’r adolygiad yn edrych ar systemau amgen posibl, gan gynnwys ystyriaeth a ddylai fod ‘na un darparwr yn hytrach na sawl bwrdd arholi yn cystadlu.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.