Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Bandio ysgolion: Leighton Andrews yn glynu at ei gynlluniau

Ionawr 12, 2012 08:13, Diweddarwyd am 08:27


Leighton Andrews
Mae Ysgrifennydd Addsyg Cymru wedi mynnu na fydd yn cael gwared â’r system bandio ysgolion er gwaetha’r gwrthwynebiad, gan ddweud ei bod yn angenrheidiol er mwyn adnabod a thargedu’r ysgolion hynny sydd angen cymorth ychwanegol.

Mewn dadl yn y Senedd neithiwr, roedd Leighton Andrews wedi gwrthod  cyhuddiad Plaid Cymru bod y system bandio yn debyg i dablau cynghrair ysgolion Lloegr ac yn fodd o godi cywilydd ar ysgolion sydd ddim yn perfformio cystal.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiddymu’r rhaglen bandio i ysgolion cynradd Cymru. Mae’r system eisoes wedi ei gyflwyno ar gyfer ysgolion uwchradd Cymru ers diwedd 2011, ond mae’r Llywodraeth nawr yn y broses o gyflwyno’r system i ysgolion cynradd.

Mae’r cynllun yn  rhoi ysgolion mewn un o bump band cyrhaeddiad yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion, ond mae Plaid Cymru yn dweud bod angen meddwl am system “fwy teg” ar gyfer gwella addysg Cymru.

Mae’r blaid yn dweud y byddai cynllun sy’n rhoi darlun mwy cyflawn o berfformiad ysgol yn well opsiwn na bandio sy’n creu “cystadleuaeth” rhwng ysgolion yn hytrach na chefnogaeth.

‘Cylch o ddirywiad’

Wrth siarad gyda Golwg 360 ddoe, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, ei fod yn galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i’r system ar unwaith, cyn tynnu ysgolion cynradd Cymru i’r un “cylch o ddirywiad” â’r rhai uwchradd.

“Mae angen gweithio ar system fwy cynhwysfawr sydd yn cynnwys bob ysgol, a chael system mwy cynadliadwy,” meddai Simon Thomas.

‘Eithrio ysgolion cefn gwlad o’r bandio’

Yn ôl Simon Thomas y broblem gyda chyflwyno system bandio i ysgolion cynradd yw na fydd rhwng “30-40% o ysgolion” yn cael eu cynnwys yn y system, oherwydd mai dim ond ysgolion gyda dros 30 o blant fydd yn cael eu hystyried.

“Fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw y byddan nhw’n gorfod cydnabod bod gymaint o ysgolion bach, ysgolion cefn gwlad yw llawer ohonyn nhw, sydd â llai na thrideg o blant, gydag un neu ddau ddosbarth,” meddai Simon Thomas.

“Os ydych chi’n mynd i eithrio 30-40% o ysgolion y wlad o’r system, yna dyw hi ddim yn mynd i fod yn system bandio cenedlaethol,” meddai. “Yn ystadegol mae e’n nonsens.”

Ymateb undeb

Mae undeb athrawon  NUT Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i’r system bandio ysgolion.

Dywedodd ysgrifennydd yr undeb David Evans mai’r cwbl mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw “ail-gyflwyno tablau cynghrair i Gymru. Does dim amheuaeth ymhlith athrawon y bydd y system bandio yn methu plant yng Nghymru.”

Mae nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu cynlluniau.

Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru Leighton Andrews wedi sôn am sefydlu uned perfformiad ysgolion er mwyn helpu ysgolion yn y bandiau gwaelod, ond does dim mwy o fanylion wedi ei gyhoeddi ar hyn o bryd.

Mae Simon Thomas yn poeni os na fydd camau yn cael eu cymryd ar fyrder, bydd yr ysgolion yn y bandiau gwaelod yn dioddef ymhellach oherwydd y ddaelltwriaeth gyffredin fod ysgol ym mand 5 yn ysgol wael.

“Mae’n creu cylch o ddirywiad pellach,” meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ken , Ionawr 12, 2012 6:03 pm

Un peth sydd yn fy mhoeni yma. Ers degawdau, yr wyf wedi credu’r efengyl fod Ysgolion Cymraeg yn well na’rb ysgolion cyfatebol Saesneg . Er fod Ysgol Tryfan yn Ysgol Gymraeg, nid yw rhai o’r ysgolion Cymraeg i’w gweld cystal a hynny – edrychwch ar rai RCT , er enghraifft . Mae’r ysgol orau yng Ngheredigion yn un draddodiadol Gymraeg,yn rhagori ar y ddwy ysgol Gymraeg sydd gennym yma.
A yw’r twf mewn addysg Gymraeg wedi gwastadu safonau ?
A yw safon Cymraeg rhai o’r disgyblion yn yr ysgolion uwchradd mor wael ei fod yn cael effaith andwyol ar ganlyniadau’r addysg yna ? (Yr wyf yn meddwl am yr ysgolion uwchradd sydd ddim yn cael eu bwydo gan ysgolion cynradd penodedig) .
Fel un a fynychodd Ysgol sydd a’i safle’n dra siomedig i mi, buaswn hefyd yn gofyn a yw pwyslais traddodiadol yr ysgolion penodedig ar chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol diwyllianol yn amddifadu’r disgyblion o ganlyniadau da mewn pynciau llai ‘Cymraeg’ fel y gwyddorau a ieithoedd modern . Yr wyf yn mynd i yrru fy mhlant i’r ysgol Gymraeg leol, doed a ddelo, ond nid pawb sy’n gwirioni ac elwa o eisteddfota ayb .

§

Benjiman , Ionawr 15, 2012 2:17 pm

Mae unrhybeth sy’n annog hierarchaeth yn ddrwg.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.