Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido 33 o swyddi newydd

Ionawr 17, 2012 14:30


Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi heddiw y bydd 33 o swyddi newydd yn cael eu cyllido o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd y swyddi darlithio wedi’u lleoli mewn sefydliadau addysg uwch ar draws Cymru a hynny mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd ar draws y gwyddorau, dyniaethau a’r celfyddydau.

Daw’r newyddion  yn dilyn dyfarnu 26 swydd o dan y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol yn gynharach eleni.

O ganlyniad fe all y cynllun arwain at greu dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Gymraeg erbyn 2015-16, gan ddatblygu darlithwyr o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am flaengarwch ym maes addysgu ac ymchwil ar draws Cymru.

‘Croesawu’

Dywedodd yr Athro R Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:“Mae’r newyddion hwn i’w groesawu’n fawr ac yn barhad o gychwyn llwyddiannus y Cynllun Staffio Academaidd eleni.  Mae’r ymateb i’r Cynllun Staffio yn ei ail flwyddyn fel hyn wedi bod yn arbennig ac yr ydym yn hyderus iawn y byddwn yn gallu adeiladu ar lwyddiant cychwynnol y cynllun.

Dywedodd Dr Sophie Smith, darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe sy’n cael ei chyflogi trwy gyllid Cynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r dyfodol yn edrych yn gyffrous iawn.  Mae llawer o bobl wedi gwneud gwaith gwych yn y maes cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol ac yn awr yr ydym yn cael y cyfle i adeiladu ar y seiliau cadarn hynny.

“Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun Staffio fel hyn yr ydym mewn sefyllfa freintiedig iawn i gael bod yn rhan o’r datblygiadau cyffrous a newydd hyn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y penodiadau newydd y flwyddyn nesaf er mwyn datblygu’r cyfleoedd cydweithio ymhellach.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Efrogwr , Ionawr 18, 2012 11:24 am

Mewn pa bynciau fydd y swyddi, tybed, ac ymhle?

§

Dafydd Trystan , Ionawr 19, 2012 10:36 am

Ceir rhestr llawn o’r swyddi, y pynciau a’r lleoliadau ar wefan y Coleg: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/newyddion/pennawd-2989-cy.php

§

Hirben , Ionawr 22, 2012 7:30 pm

Gwych

§| Nodi camddefnydd

Hogan wirion , Ionawr 23, 2012 10:42 pm

Fasa’n braf tae’r rhai sy’n holi ac yn beirniadu yn gwneud rwbath cadarnhaol – fel ymuno? Dwi’n aelod (stiwdant) – beth am yr holl athrawon sy’n troi eu disgyblion i ffwrdd oddi wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg am eu bod nhw mor boring?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.