Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cynnydd 35% mewn ymosodiadau ar athrawon

Chwefror 17, 2012 10:57


Mae nifer yr ymosodiadau treisgar ar athrawon wedi codi dros draean yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigyrau a ryddhawyd i Geidwadwyr Cymru yn dangos bod nifer yr ymosodiadau ar athrawon wedi codi 50% mewn ambell i awdurdod lleol, gan gynnwys Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.

Cynnyddodd nifer y disgyblion a gafodd eu hatal o’r ysgol ar ôl ymosodiadau o’r fath o 913 yn 2007/08 i 1,234 yn 2010/11.

“Mae’r ffigyrau yma yn frawychus, ac yn dangos yr her sy’n wynebu athrawon yn y dosbarth,” meddai llefarydd yr wrthblaid ar addysg, Angela Burns.

“Mae’r ystadegau yn dangos sut y gallai bygythiad trais wneud dysgu yn hunllef i’n hathrawon.

“Nid yn unig y mae ymddygiad ymosodol yn y dosbarth yn fygythiad i’n hathrawon, ond hefyd i ddisgyblion.

“Ers 2007 mae nifer yr ymosodiadau ar athrawon wedi cynyddu dros draean ac wedi dyblu mewn rhai ardaloedd.

“Mae’r ffigyrau yn dangos nad ydi gweinidogion addysg Llafur wedi cefnogi athrawon wrth adfer disgyblaeth yn y dosbarth.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnu ar fiwrocratiaeth ddiangen a gweithio’n agosach â disgyblion trafferthus sydd yn aflonyddu ar addysg y mwyafrif.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ann , Chwefror 17, 2012 2:42 pm

Mae disgbylion anystywallt yn gwybod mai nhw sydd trechaf, a wiw i athrawon geisio gwneud unrhyw beth. Mae gennyf drueni dros blant ufudd sydd eisiau dysgu – mae’r rhai anystywallt yn gymaint o boendod iddynt hw hefyd.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.