Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Coleg Cymraeg yn anrhydeddu’r Cymrodorion cyntaf

Chwefror 17, 2012 19:17


Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r Cymrodorion cyntaf fydd yn cael eu hanrhydeddu gan y Coleg.

Datgelwyd heddiw mai’r Dr Meredydd Evans, yr Athro Hazel Walford Davies, a’r Athro M Wynn Thomas fydd yn derbyn y Cymrodoriaethau Er Anrhydedd cyntaf i’w rhoi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cenedlaethol, yr Athro Merfyn Jones, mae’r tri wedi cael eu dewis oherwydd eu cyfraniadau tuag at addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod eu gyrfa.

“Mae cyfraniad Dr Meredydd Evans, yr Athro Hazel Walford Davies a’r Athro Wynn Thomas tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac fe fydd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r dathliadau, ac i ddangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith diflino,” meddai.

“Nid oes unrhyw amheuaeth fod gweledigaeth unigolion fel y rhain wedi bod yn allweddol yn yr ymdrech i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac wrth i’r Coleg ddatblygu a thyfu yn ei flwyddyn gyntaf fel hyn mae’n amserol bod y tri yma’n derbyn Cymrodoriaeth Er Anrhydedd gan y Coleg.”

Mae Dr Meredydd Evans wedi cyfrannu’n helaeth at astudiaethau cyfrwng Cymraeg, ac wedi bod yn flaenllaw iawn yn y gwaith o sefydlu ymddiriedolaeth i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg ar gyrsiau’r Coleg.

Yr Athro Hazel Walford Davies oedd Cadeirydd Bwrdd Rheoli’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg rhwng 2006 a 2011, sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg. Yn y swydd honno fe wnaeth waith pwysig wrth sefydlu’r Coleg Cenedlaethol.

Mae’r Athro M Wynn Thomas yn ysgolhaig amlwg ym maes Llenyddiaeth Saesneg ac roedd yn gadeirydd ar weithgor a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru yn 2001 i ystyried cynlluniau at y dyfodol. Un o brif argymhellion y gweithgor oedd sefydlu cynllun ysgoloriaethau PhD i feithrin cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr Cymraeg – mae nifer o’r rheiny bellach yng nghlwm a gwaith y Coleg Cenedlaethol.

Bydd y tri yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni arbennig ar 28 Chwefror, fel rhan o Gyfarfod Blynyddol y Coleg Cenedlaethol.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.