
Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi heddiw fod ymchwiliad mewnol wedi datgelu methiannau wrth ddilyn gweithdrefnau priodol o fewn y Brifysgol.
Ond mae’r Brifysgol yn mynnu nad oes dim tystiolaeth o dwyll na llygredd o fewn y sefydliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw’n “cadarnhau bod nifer o aelodau o staff wedi eu gwahardd o’u swyddi dros dro, ond fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw am faint ohonyn nhw sydd wedi eu heffeithio nag am y broses sy’n dilyn.”
Daw’r casgliadau yn dilyn ymchwiliad mewnol a lansiwyd gan Is-Ganghellor newydd y Brifysgol ym mis Hydref y llynedd.
Bryd hynny, fe gyhoeddodd y Brifysgol eu bod nhw’n ymchwilio i “ystod o weithgareddau masnachol a gweithredol a ddaeth i’r amlwg yn sgil adolygiad o ystadau’r Brifysgol.”
Ers hynny, mae Golwg 360 wedi datgelu fod y Brifysgol wedi galw ar gymorth cyfrifwyr Deloitte LLP a chwmni cyfreithwyr Eversheds LLP gyda’u hymchwiliad.
‘Methiannau’
Cafodd canlyniadau terfynnol yr ymchwiliad hwnnw i weithgareddau Prifysgol Aberystwyth eu cyflwyno i aelodau a staff y Brifysgol y prynhawn yma gan yr Is-Ganghellor, April McMahon.
Mewn datganiad heddiw, dywedodd y Brifysgol fod yr adroddiad “wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll na llygredd mewn perthynas â’r materion a ymchwilwyd, er mae’n amlwg fod yna fethiannau o ran dilyn y gweithdrefnau priodol.”
Wrth gyhoeddi’r casgliadau heddiw, dywedodd yr Is-Ganghellor April McMahon fod canfyddiadau’r ymchwiliad yn golygu y gallai’r Brifysgol “yn awr weld beth sydd angen ei wneud a gofynnaf i’m cydweithwyr i gyd yn awr ganolbwyntio ar geisio dod o hyd i atebion adeiladol.”
‘Newidiadau ar waith’
Dywedodd hefyd fod “rhai newidiadau ar waith eisoes,” ac y byddai “cydweithwyr yn sylwi ar y newidiadau i drefn y pwyllgorau a’r ffaith bod ein harferion adrodd yn ôl yn fwy agored” o hyn ymlaen.
Ond dywedodd ei bod yn hyderus “y bydd modd inni, gyda’n gilydd, adeiladu ar ein seiliau cadarn a pharhau i ddatblygu Prifysgol Aberystwyth a’n gwaith o safon fyd-eang: ein dysgu, ein hymchwil a’r profiad rydym yn ei roi i’n myfyrwyr.”
Lili , Chwefror 25, 2012 8:14 pm
§