Maes awyr Caerdydd
Fe fydd y gwasanaeth awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn cael ei gynnal tan fis Rhagfyr 2018, wedi i gwmni LinksAir ennill cytundeb newydd.

Cyhoeddodd y cwmni Prydeinig eu bod yn chwilio am staff newydd o ganlyniad i’r cyhoeddiad.

Fe fydd LinksAir yn parhau i gynnig teithiau ddwywaith y dydd ond fe fydd yr amseroedd teithio’n wahanol ac yn fwy hyblyg, er mwyn i deithwyr allu treulio mwy o amser yn y ddau leoliad.

Pobol fusnes sy’n defnyddio’r gwasanaeth gan amlaf, yn ôl Llywodraeth Cymru, felly mae’r newidiadau yn ymateb i’w hadborth nhw.

Bydd y cytundeb newydd yn dechrau ar 10 Rhagfyr eleni ac yn para tan 9 Rhagfyr 2018.

Cysylltiadau busnes

Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart ei bod yn gobeithio y bydd y newidiadau i’r amserlen yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth.

“Rwyf wedi ymrwymo i wella cysylltiadau busnes ledled Cymru er mwyn hybu twf economaidd,” meddai.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn gwneud hynny ac yn creu cyfleoedd twristiaeth drwy leihau’r amser teithio yn arw rhwng Gogledd-orllewin Cymru a Chaerdydd.

“Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi llwyddo i leihau cost y cytundeb hwn i’r trethdalwr.”

Y newidiadau

Bydd gwasanaeth yn gadael Caerdydd am 07.40 a 16.25 ddydd Llun i ddydd Iau ac am 07:40 a 15.25 ar ddydd Gwener. Bydd y gwasanaeth yn gadael Ynys Môn am 08.55 a 17.40 yn ystod yr wythnos (16.40 ar ddydd Gwener).

Yng Ngwanwyn 2015, bydd y cwmni’n cynnig gwasanaeth fydd yn gadael Caerdydd am 07.25 ac yn gadael yn hwyrach yn y prynhawn fel bod gan bobl 35 munud yn fwy o amser i’w dreulio ym mhob lleoliad.

‘Gwasanaeth costus’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu’r cyhoeddiad, gan ddweud y dylai’r Llywodraeth fod yn gwario ar deithiau trên yn hytrach na theithiau awyr: “Mae ymestyn y gwasanaeth costus yma yn gamgymeriad arall gan Lywodraeth Cymru,” meddai llefarydd y blaid ar drafnidiaeth, Eluned Parrott.

“Mae gweinidogion wedi tywallt miliynau o bunnau i’r cymhorthdal gwastraffus a llygredig yma, heb fawr o fudd i bobol gogledd Cymru.

“Mae ein rheilffyrdd yn gwbl annigonol, gyda’r cerbydau yn llawn dop ac o safon isel mewn rhai achosion, siawns mai dyma ddylai fod y flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru?

“Mae cysylltiadau rheilffyrdd yn llawer mwy effeithiol ac effeithlon na theithiau awyr, sydd wedi cael ei alw’n wastraff o arian cyhoeddus dro ar ôl tro.”