Y Cynulliad yw un o'r cyflogwyr mwyaf hoyw-gyfeillgar
Grŵp Bancio Lloyd’s a’r Cynulliad Cenedlaethol yw’r cyflogwyr mwyaf hoyw-gyfeillgar yng Nghymru, yn ôl Stonewall Cymru.

Mae’r rhestr wedi’i seilio ar ganlyniadau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, a hon yw’r unfed restr ar ddeg a gafodd ei chyhoeddi gan yr elusen.

Ymddangosodd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn y 100 uchaf am y tro cyntaf erioed.

Bydd gwobrau arbennig yn cael eu cyflwyno i gyflogwyr ar Ionawr 19, ac mae’r gwobrau’n cynnwys Uwch Hyrwyddwyr y Flwyddyn, Grŵp Rhwydwaith y Flwyddyn a Model Rôl y Flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: “Nod y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yw herio ac ymestyn cyflogwyr, ac eleni fe wnaethon ni’r her yn anoddach nag erioed, drwy ofyn am dystiolaeth o’r effaith y mae cyflogwyr yn ei chael ar staff.

“Fe gawson ni dystiolaeth gan fwy o gyflogwyr Cymru nag erioed o’r blaen, ac mae cyflogwyr Cymru wedi gwneud yn arbennig o dda o ran cyrraedd y 100 Gorau.

“Ein gweledigaeth ni yw gwlad lle gall pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol gyrraedd pob owns o’u potensial. Rydyn ni’n falch iawn o’r cyflogwyr ar y rhestr yma: maen nhw’n helpu i wireddu’r weledigaeth.”

Cydraddoldeb

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler: “Mae cael ein henwi fel Cyflogwr Sector Cyhoeddus Gorau Cymru am yr ail dro yn olynol yn dangos bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymrwymedig i gydraddoldeb yn y gwaith.

“Fe hoffwn i ddiolch i’r holl staff am gyfrannu at y gydnabyddiaeth yma, ac yn enwedig y Tîm Cydraddoldeb a’n rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, sy’n gweithio mor galed er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn parhau i fod yn sefydliad sy’n batrwm i eraill.

“Mae’n iawn fod corff seneddol Cymru yn arwain ar hyn, ac rwy’n gobeithio y byddwn ni’n parhau i adeiladu ar ein llwyddiant.”

‘Angerddol’

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Bancio Lloyds: “Rwyf wrth fy modd bod Grŵp Bancio Lloyds wedi cael ei gydnabod fel y cyflogwr mwyaf blaenllaw ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.

“Rydym yn angerddol ynghylch sicrhau bod ein cydweithwyr yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gweithle, a bod pawb yn cael eu trin yn deg, gydag urddas a pharch.

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’n camau ymlaen wrth greu gweithle mwy cynhwysol a chefnogol.”

Mae modd gweld y rhestr yn llawn yma