Mae aelodau seneddol wedi condemnio wyth cwmni adeiladu am ymddwyn yn “ddideimlad” at griw o weithwyr, gan gynnwys mwy na 100 o Gymru.

Yn ôl pwyllgor seneddol, roedd y cwmnïau wedi eu camarwain nhw a gweithwyr tros gynllun i dalu iawndal am sgandal ‘rhestrau du’ i atal rhai dynion rhag cael gwaith.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Dethol yr Alban yn dweud bod y cwmnïau wedi esgus bod yr undebau’n cefnogi’r cynllun iawndal, er nad oedd hynny’n wir.

Maen nhw hefyd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r holl sgandal.

‘Camarwain’

Roedd camarwain aelodau seneddol yn beth difrifol, medden nhw, ond roedd hi’n fwy difrifol i gamarwain gweithwyr a’u teuluoedd.

Roedd yr wyth cwmni – Balfour Beatty, Carillion, Costain, Kier, Laing O’Rourke, Sir Robert McAlpine, Skanska UK a Vinci PLC – wedi bod yn “ddideimlad” ac “ystrywgar”, meddai’r adroddiad.

Mae’r wyth yn dweud eu bod yn cadw at y cynllun a’u bod eisoes wedi talu iawndal i 149 o weithwyr.

‘Arbed arian ac enw da’

Roedd y cynllun iawndal yn ymwneud mwy â cheisio arbed arian ac enw da’r cwmnïau na gwneud iawn am y sgandal, meddai’r ASau o bob ochr i Dŷ’r Cyffredin.

Ond roedd cwmnïau eraill yn waeth byth – heb gynnig dim iawndal o gwbl.

Fe ddaeth y sgandal i’r wyneb yn 2009 wrth i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gipio ffeiliau oedd gan gwmnïau adeiladu ar fwy na 3,000 o weithwyr – a thua 111 o’r rheiny yng Nghymru.

Roedd y ffeiliau’n dangos bod y cwmnïau wedi rhoi’r gweithwyr ar ‘restr ddu’ i’w gwahardd nhw rhag gweithio – oherwydd eu bod yn codi cwestiynau am bethau fel iechyd a diogelwch, cyflogau a hawliau.

Llywodraeth Cymru wedi gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na ddylai’r un cwmni sy’n gwahardd gweithwyr fel hyn gael gwaith cyhoeddus.

Fe ddilynodd Llywodraeth yr Alban eu hesiampl hefyd ond mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod cynnal ymchwiliad.

Ddoe, roedd undeb y GMB wedi trefnu protest ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn erbyn cwmni Skanska sy’n gweithio yn yr ardal.

Ac mae rhestr yr undeb yn rhestru 99 o weithwyr sydd wedi eu gwahardd yng Nghymru, gan gynnwys 34 yn Sir Ddinbych, 15 yn Abertawe a 12 yng Ngwynedd.