Mae llawer o weithwyr ar gytundebau heb oriau penodol yn ofni siarad allan am y peth rhag ofn iddyn nhw golli eu swyddi, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd adroddiad gan Cyngor ar Bopeth fod mwy o bobl oedd yn cysylltu â nhw yn dweud bod ganddyn nhw oriau anghyson yn y gwaith.

Awgrymodd yr arolwg fod hynny yn achosi trafferthion i bobl wrth geisio delio â dyledion a thalu costau dydd i ddydd y cartref, yn ogystal â chael morgais neu dalu rhent.

Beirniadaeth wleidyddol Mae gwleidyddion ac undebau llafur wedi tynnu sylw at fater cytundebau heb oriau penodol dros y misoedd diwethaf, gan gyhuddo’r llywodraeth o beidio â gwneud digon i wella sicrwydd gwaith pobl.

Yn ôl yr arolwg o 300 o staff swyddfeydd Cyngor ar Bopeth, roedd saith o bob deg yn ymwybodol o bobl oedd wedi cael llai o shifftiau ac oriau gwaith ar ôl iddyn nhw fod yn sâl, ar wyliau, neu wedi gwrthod gwaith.

Roedd pobl hefyd yn cysylltu â’r asiantaeth am gyngor wrth ddelio â phroblemau eraill megis dyled, gofal plant ac oedi cyn derbyn budd-daliadau.

“Mae cyllido, lleihau gwariant ar danwydd a gallu talu’r biliau dydd i ddydd yn anodd pan nad ydych chi’n gwybod faint o waith gewch chi,” meddai’r adroddiad.

“Mae methu dangos fod gennych chi incwm wedi ei warantu ar gyfer y dyfodol hefyd yn gallu rhwystro pobl rhag cael morgais neu hyd yn oed rhentu tŷ yn breifat.”

Hyblygrwydd

Llynedd fe gysylltodd dros 220,000 o bobl â Cyngor ar Bopeth gyda phroblemau yn ymwneud â gwaith.

Ac fe ddywedodd prif weithredwr y corff, Gillian Guy, fod yr ymateb diweddar i gytundebau heb oriau penodol yn dangos bod angen mwy o sicrwydd i weithwyr.

“Mae’n rhaid cael hyblygrwydd yn y farchnad waith, ond nid ar draul tegwch,” meddai Gillian Guy.

“Mae’r cyfuniad o dâl isel a phatrymau gwaith ansefydlog yn gadael gormod o bobl yn ei chael hi’n anodd dod a dau ben llinyn ynghyd o un mis i’r llall.”

Ychwanegodd y dylai pwy bynnag oedd y llywodraeth ar ôl yr etholiad ym mis Mai gymryd camau pellach i sicrhau tegwch i bobl oedd mewn gwaith.