Mae cwmni dwr ffynnon Princes Gate yn buddsoddi £5.5 miliwn er mwyn ehangu’r busnes, gyda 25 o swyddi newydd yn cae eu creu o ganlyniad.

Mae’r busnes o Arberth yn Sir Benfro yn bwriadu creu cyfleuster cynhyrchu newydd ac yn buddsoddi mewn llinell botelu fodern iawn sy’n gallu cynhyrchu 37,000 o boteli yr awr. O ganlyniad, bydd modd cynyddu nifer y poteli a gynhyrchir o 85 miliwn i 370 miliwn.

Mae’r estyniad, sy’n hanfodol i fodloni’r galw cynyddol am ddŵr ffynnon organig yn cael £250,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru.

Dros y tair blynedd nesaf, mae disgwyl y bydd y cwmni yn creu 25 o swyddi newydd, gyda chyfanswm y bobl sy’n cael eu cyflogi ar y safle yn cynyddu i dros 50.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae clywed bod busnesau cynhenid yn parhau i dyfu ac i greu swyddi yn newyddion gwych iawn. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru’n gallu helpu’r cwmni hwn i ehangu ei fusnes fel hyn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i’r diwydiant bwyd a diod fel un o’n sectorau datblygu pwysicaf a’r nod yw cynyddu gwerthiant blynyddol 30% erbyn 2020 i £7 biliwn.”

Swyddi

Mae’r buddsoddiad newydd yn sicrhau swyddi newydd i gwmni sy’n targedu marchnadoedd dramor, a’r gred yw y bydd yn helpu Princes Gate Spring Water – un o frandiau eiconig Cymru – gyrraedd marchnadoedd newydd.

Dywedodd Endaf Edwards, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Dyma’r buddsoddiad a’r prosiect ehangu mwyaf i ni ymgymryd ag ef ers dechrau’r busnes 24 blynedd yn ôl.

“Mae’r help yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn gallu manteisio ar y cyfle newydd a phwysig hwn.”

Sefydlwyd y busnes teuluol yn 1991 fel prosiect arallgyfeirio ar y fferm pan ddarganfuwyd ffynnon organig ar y tir.