Safle Trawsfynydd
Fe fydd 90 o swyddi ar safle gorsaf ynni niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd yn dod i ben cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Magnox sy’n berchen y safle, mai swyddi ar gytundeb sy’n cael eu colli ac na fydd swyddi parhaol yn diflannu:

“Fel rhan o raglen cynnal a chadw’r safle yn Nhrawsfynydd, fe fydd nifer y bobol sy’n gweithio ar y safle yn lleihau wrth i waith gael ei gwblhau,” meddai.

“Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae gwaith ar gontract gan tua 90 o bobol wedi cael ei orffen. Nid oes staff parhaol yn gadael y cwmni yn sgil hyn.”

Fe fydd tua 180 o bobol yn parhau i weithio ar y safle.

Cafodd trydan ei gynhyrchu ar y safle o 1965 – 1991.